Cymru, Ewrop a’r Byd

Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol

Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol

20 Mai 2010

Lansio Pecyn Athrawon Bagloriaeth Cymru

Bydd Pecyn Athrawon newydd sbon, a ddatblygwyd gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer athrawon Bagloriaeth Cymru, cymhwyster cyffrous Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn cael ei lansio yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol nodedig y Brifysgol am 11.00 o’r gloch fore Gwener 21 Mai 2010.

Mae’r pecyn hwn yn cynnwys ystod o adnoddau sy’n canolbwyntio ar elfen Cymru, Ewrop a’r Byd o’r Fagloriaeth, a chafodd ei gynhyrchu mewn ymateb i alw cynyddol gan athrawon yng Nghymru am ddeunyddiau perthnasol yn enwedig deunyddiau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn bresennol yn y lansiad bydd cynrychiolwyr o Adran Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, CBAC, Y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, Rhwydweithiau Llwybrau Dysgu 14-19 Ceredigion a Phowys, ac athrawon Bagloriaeth Cymru o bob rhan o’r wlad.

Cynhyrchwyd y pecyn yn y Gymraeg a’r Saesneg a chaiff ei drefnu’n bedair thema wahanol: Deall Democratiaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a’r Iaith Gymraeg yn y Gymru Gyfoes. Mae pob thema’n cynnwys cynllun gwers, cyflwyniadau, taflenni gwaith ac amrywiol weithgareddau, a rhoddir pwyslais ar ddatblygu’r Sgiliau Allweddol sy’n ganolog i gymhwyster Bagloriaeth Cymru.

Dywedodd Dr Anwen Elias, Cyfarwyddwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth a chydlynydd y Pecyn, fod “Bagloriaeth Cymru’n gymhwyster newydd a chyffrous dros ben, ac fel Adran credwn ei bod yn hollbwysig ein bod yn cefnogi athrawon wrth iddynt arwain myfyrwyr i feddwl am rôl Cymru yn Ewrop a’r byd”.

Ychwanegodd Dr Sue Pester, Cyfarwyddwr Partneriaeth Ehangu Mynediad Canolbarth a Gorllewin Cymru fod “ysgolion Cymru wedi bod yn hynod frwdfrydig wrth gofleidio’r cymhwyster newydd hwn, ac wrth wneud hynny maent yn awyddus iawn i ddatblygu cysylltiadau gydag Addysg Uwch er mwyn cefnogi’r dysgu ac ymestyn ymwybyddiaeth pobl ifanc o rôl prifysgolion yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn hynod falch o allu helpu gyda’r datblygiad gwerthfawr hwn”.

Mae’r pecyn yn ganlyniad cydweithio rhwng Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth a Phartneriaeth Ehangu Mynediad Canolbarth a Gorllewin Cymru, a derbyniwyd cefnogaeth ariannol gan Brifysgol Aberystwyth, y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, Rhwydweithiau Llwybr Dysgu 14-19 Ceredigion a Phowys a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru.