Diffoddwch ‘e

Jo Strong o Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol yn derbyn y wobr oddi wrth Dr John Harries

Jo Strong o Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol yn derbyn y wobr oddi wrth Dr John Harries

24 Mai 2010

Gwleidyddiaeth Rhyngwladol yn ymateb i her ‘Diffoddwch ‘e’

Dangosodd yr her ‘Diffoddwch ‘e’, a drefnwyd gan Brifysgol Aberystwyth ac a oedd yn galw ar i bawb ddiffodd offer trydanol nad oedd yn cael ei ddefnyddio, y gallai’r Brifysgol arbed hyd at £40,000 y flwyddyn ar ei biliau trydan.

Trefnwyd ‘Diffoddwch ‘e’ gan y Brifysgol fel rhan o Wythnos Gynaliadwyedd Cymru. Gwahoddwyd staff a myfyrwyr i ddiffodd offer trydanol nad oedd yn hanfodol am gyfnod o ddwy awr ar fore Llun 17eg Mai.  

Cafodd y defnydd o drydan ei fonitro a’i gymharu gyda chyfartaledd y defnydd trydan ar gyfer yr un cyfnod ar yr un diwrnod ers y 1af o Fawrth eleni.

Yr adeilad a ddangosodd y gwelliant mwyaf oedd Gwleidyddiaeth Rhyngwladol lle gwelwyd gostyngiad o 24.8%. Yn ail agos iawn oedd Adeilad Carwyn James (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff) gyda gostyngiad o 24.7%, Argraffu a Dylunio 21.5%, yr Hen Goleg gyda 18.3% a dwy o’r neuaddau preswyl, Pantycelyn a Rosser, gyda gostyngiad o 17% ac 16% yr un.

Yn ôl Nigel Owen, Dirprwy Gyfarwyddwr Ystadau, petai’r ymarferiad hwn yn cael ei ail adrodd yn ystod oriau gwaith dros gyfnod o flwyddyn, byddai allyriadau Carbon Deuocsid o Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol yn unig yn gostwng 3.5 tunnell ac yn arbed £540.

“Byddai sefyllfa debyg ar draws y Brifysgol yn lleihad blynyddol o bron i 250 tunnell o Garbon Diocsid ac yn arbed mwy na £38,500”, dywedodd.

Cafodd canlyniadau Diffoddwch ‘e eu cyhoeddi yn ystod cyflwyniad ddydd Gwener 22 Mai i nodi diwedd wythnos o weithgareddau i ddathlu Wythnos Gynaliadwyedd Cymru.

Yn ystod y digwyddiad cyflwynodd Dr John Harries, Dirprwy Is-Ganghellor, dystysgrif Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon i David Oldham a Diane Jones o Adran Ystadau am eu gwaith ar y cyflwyniad i’r Ymddiriedolaeth Garbon. Mae Aberystwyth yn un o 9 prifysgol ar draws y Deyrnas Gyfunol i dderbyn y dyfarniad hwn, ac un o ddwy yn unig yng Nghymru. Caerdydd yw’r llall.