Etholiad 2010

Yr Athro Roger Scully (dde) a Dr Richard Wyn Jones

Yr Athro Roger Scully (dde) a Dr Richard Wyn Jones

26 Mai 2010

What happened in the 2010 Election? Why?

Dyma ddau gwestiwn fydd yn cael eu hateb mewn dau Seminar Brecwast a gynhelir yr wythnos hon - yng Nghaerdydd fore Mercher 26ain o Fai 2010 ac yn Aberystwyth fore Gwener 28ain o Fai 2010.

Bydd Dr Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru (CLlC) ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Athro Roger Scully o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru (SGC) Prifysgol Aberystwyth yn rhannu ychydig o’r data a gasglwyd yn Arolwg Etholiad Cymru 2010.

Cynhelir y seminarau hyn yn Eglwys Norwyaidd Bae Caerdydd ar y dydd Mercher ac yn Adeiladau’r Llywodraeth yn Aberystwyth ar y dydd Gwener, ac fe’u trefnir gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru.
 
Cynhaliwyd Arolwg Etholiad Cymru 2010 gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru mewn cydweithrediad gyda’r cwmni pôlio YouGov. Holwyd sampl gynrychioliadol o 1475 o etholwyr Cymru yn union wedi etholiad cyffredinol y DG ar y 6ed o Fai.

Yn ogystal â darparu dealltwriaeth werthfawr o etholiad 2010, caiff darganfyddiadau’r arolwg eu defnyddio wrth baratoi astudiaeth flaenllaw o etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011, astudiaeth fydd yn cael ei chynnal gan SGC a ChLlC wedi iddynt sicrhau cyllid sylweddol gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yr ESRC.

Yn dilyn yr etholiad cyffredinol, pery’r Blaid Lafur y blaid gryfaf o ddigon yng Nghymru, er gwaethaf cwymp arwyddocaol yn ei phleidlais. Dywedodd yr Athro Roger Scully, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, fod “perfformiad Llafur yng Nghymru yn 2010 yn hanesyddol o wael ac yn annisgwyl o dda'r un pryd. Roedd cyfran Llafur o’r bleidlais gyda’r isaf yng Nghymru ers 1918, ac yn is yng Nghymru nag yn yr Alban am y tro cyntaf erioed.”

“Mae’r ffaith fod y blaid Lafur yn parhau i ddominyddu cynrychiolaeth seneddol Cymru yn dangos dau beth. Yn gyntaf, maint dominyddiaeth hanesyddol Llafur dros wleidyddiaeth Cymru. Ac yn ail, anallu unrhyw un o wrthwynebwyr Llafur i gynnig dewis arall sy’n argyhoeddi. Yn 2010, dengys ein harolwg fod yna lawer iawn o ewyllys da tuag at y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru. Ond ar y cyfan, methwyd â throi’r ewyllys da hwnnw yn bleidleisiau”, ychwanegodd.

Yn ogystal â thrafod perfformiad y pleidiau yn yr etholiad, bydd y seminarau hefyd yn cyflwyno data yn dangos canfyddiadau cyhoeddus o berfformiad clymblaid Llafur-Plaid ym Mae Caerdydd. Dengys y darganfyddiadau hyn fod yna wahaniaeth diddorol iawn yn y modd y mae pobl yng Nghymru yn priodoli canlyniadau polisi.

Mae’r rhan fwyaf o’r rheiny sy’n meddwl fod y sefyllfa wedi gwella mewn meysydd megis iechyd, addysg a’r economi yn y blynyddoedd diweddar yma yn priodoli’r llwyddiant i Lywodraeth y Cynulliad; ond mae mwyafrif y rheiny sy’n credu fod y sefyllfa wedi gwaethygu yn beio hynny ar lywodraeth y Deyrnas Gyfunol!

Yn ogystal, ceir tystiolaeth am y modd y mae pobl yn dymuno gweld Cymru’n cael ei llywodraethu a beth yw’r modd mwyaf tebygol y byddan nhw’n pleidleisio mewn refferendwm ar fwy o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol. Ar y cyfan dengys y dystiolaeth hon agweddau cadarnhaol tuag at ddatganoli a chefnogaeth sylweddol dros fynd â datganoli gam ymhellach.

Cred y mwyafrif o bleidleiswyr mai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddylai gael y mwyaf o ddylanwad dros lywodraethu Cymru yn gyffredinol, ac yn benodol dros redeg y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ac ysgolion. Awgrymodd hanner yr ymatebwyr mai Llywodraeth y Cynulliad yn hytrach na llywodraeth San Steffan ddylai lunio polisi ynglŷn â’r heddlu.

Ar bwnc y refferendwm, nododd 50% o’r pleidleiswyr eu bod yn bwriadu pleidleisio ‘Ie’ mewn refferendwm am fwy o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol, 32% eu bod yn bwriadu pleidleisio ‘Na’, gyda’r gweddill heb benderfynu eto neu ddim yn bwriadu pleidleisio.

Wrth wneud sylw ar yr ymchwil, dywedodd Dr Richard Wyn Jones, “Gan fod cynnal refferendwm ynglŷn ag ehangu pwerau deddfu i’r Cynulliad Cenedlaethol bellach yn fater o pryd yn hytrach nag os, nid oes yna unrhyw amheuaeth y bydd llywodraeth glymblaid Cymru a phawb sy’n ffafrio mwy o bwerau yn falch iawn o’r canfyddiadau yma.

“Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o bôliau wrth gwrs i awgrymu fod y garfan ‘Ie’ yn wynebu buddugoliaeth weddol gyfforddus. Er na ellir cymryd y canlyniad yn ganiataol, mae’r momentwm bellach yn amlwg ar ochr y rheiny sydd yn dymuno gweld Cynulliad Cenedlaethol gyda mwy o bwerau. Does ryfedd efallai fod y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gobeithio am bôl yn yr Hydref”, ychwanegodd.

Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru
Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn ganolfan ymchwil annibynnol ac amhleidiol wedi’i sefydlu o fewn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, adran sydd yn cael ei chydnabod gyda’r gorau yn ei maes o ran ymchwil a safon ei dysgu. Nod Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yw hybu astudiaeth a thrafodaeth academaidd ar bob agwedd o wleidyddiaeth Cymru. Mae gwaith Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn cwmpasu nid yn unig ddatblygiadau gwleidyddol oddi mewn i Gymru ond hefyd gysylltiadau gwleidyddol Cymru â gweddill Ynysoedd Prydain, Ewrop a'r byd.

Canolfan Llywodraethiant Cymru
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn ganolfan ymchwil a gefnogir gan Ysgol y Gyfraith ac Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd, gan dynnu ynghyd ysgolheigion o adrannau ar draws y Brifysgol. Mae staff y Ganolfan yn cwblhau ymchwil blaengar ar bob agwedd o’r gyfraith a llywodraethiant yng Nghymru, yn ogystal â gwaith ymchwil ar lywodraethiant datganoledig yng nghyd-destun y DG ac Ewrop. Mae’r ganolfan hefyd yn hwyluso a hyrwyddo trafodaeth gyhoeddus ynglyn â datblygiadau allweddol llywodraethiant Cymru.