Llwyddiant tablau cynghrair

The Times

The Times

27 Mai 2010

Llwyddiant tablau cynghrair Prifysgol Aberystwyth yn parhau

Bodlonrwydd uchel ymysg myfyrwyr a gwell rhagolygon ar gyfer graddedigion sydd yn gyfrifol am godi Prifysgol Aberystwyth i blith y 40 Prifysgol uchaf y Deyrnas Gyfunol yn ôl y Times Good University Guide 2011 sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, dydd Iau 27ain Mai 201.

Dringodd Aberystwyth 6 lle o’i gymharu â 2010 i’r 40fed safle yn y DG ac mae hi hefyd wedi dringo i’r 7fed safle yn y DG am fodlonrwydd myfyrwyr.

Cafwyd canlyniadau nodedig mewn pynciau penodol gan gynnwys Amaethyddiaeth a Choedwigaeth sydd yn 6ed yn y DG, Astudiaethau Celtaidd (3ydd), Daearyddiaeth a Sustemau Amgylcheddol (12fed), Llyfrgellyddiaeth a Sustemau Gwybodaeth (4ydd), Gwleidyddiaeth (15fed), a Gwyddor Chwaraeon (21ain). 

Cyhoeddir y Times Good University Guide wythnos yn unig wedi cyhoeddi tabl cynghrair prifysgolion yr Independent ddydd Iau 20fed Mai.

Yn ôl yr Independent mae Aberystwyth yn dringo i safle 48 yn y tabl llawn (i fynny 7 safle ers 2010), ac yn derbyn marciau uchel iawn am fodlonrwydd myfyrwyr, maes lle mae’n parhau i arwain yng Nghymru ac ymysg y gorau yn Deyrnas Gyfunol.

Cafwyd canlyniadau nodedig mewn pynciau penodol gan gynnwys Amaethyddiaeth a Choedwigaeth (9fed), Astudiaethau Celtaidd (3ydd), Croeso, Hamdden a Thwristiaeth (5ed) a Llyfrgellyddiaeth a Rheolaeth Gwybodaeth (4th).

Dywedodd yr Athro Martin Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn dangos cynnydd gwych ac mae bellach o fewn traean uchaf Prifysgolion y Deyrnas Gyfunol.”
“Mae ein cryfderau yn eang, o safon dysgu ac ymchwil i brofiad myfyrwyr a’r amgylchedd byw a dysgu sydd yma. Sail y cryfderau yma yw’r berthynas wych sydd yn bodoli rhwng athrawon a myfyrwyr, ymchwilwyr a gweinyddwyr, a’r dref a’r Brifysgol.” 

“Mae’r canlyniad gwych hwn, sydd yn dangos ein bod yn dod i amlygrwydd uwch o fewn y Deyrnas Gyfunol, yn bleidlais gref o hyder yn safon a chyfeiriad addysg uwch yn Aberystwyth”, ychwanegodd.

Mae’r Times Good University Guide 2011 ar gael yma: http://extras.thetimes.co.uk/gooduniversityguide/.

Mae’r Independent 2011 University League Table ar gael yma: http://www.thecompleteuniversityguide.co.uk/