Prifysgol Aberystwyth i benodi Is-Ganghellor newydd

Yr Athro Noel Lloyd

Yr Athro Noel Lloyd

01 Gorffennaf 2010

Cyhoeddodd yr Athro Noel Lloyd CBE, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ei fwriad i ymddeol pan fydd ei gyfnod yn y swydd yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 2010/11.

Gwnaeth yr Athro Lloyd, sydd wedi bod yn y swydd ers Medi 2004, y cyhoeddiad mewn cyfarfod o Gyngor y Brifysgol heddiw, Dydd Iau 1 Gorffennaf 2010.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth:
“Mae Noel wedi rhoi gwasanaeth hir a neilltuol i Brifysgol Aberystwyth. Mae’r Cyngor wedi talu teyrnged iddo am ei wasanaeth fel Cofrestrydd ac Ysgrifennydd ac yna fel Is-Ganghellor.”

“Mae ei ymddeoliad, sydd wedi ei gynllunio ers cryn amser, yn gadael Prifysgol Aberystwyth mewn sefyllfa dda i wynebu heriau’r dyfodol. O dan ei arweinyddiaeth datblygodd y Brifysgol yn sylweddol a sicrhaodd statws hunanlywodraethol. Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda Noel ac yn edrych ymlaen at barhau i wneud hynny am y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Wedi hynny byddaf yn dymuno ymddeoliad hapus iddo, pan fydd, heb amheuaeth, yn dychwelyd at y pwnc sydd o ddiddordeb mawr iddo, mathemateg.”

Yn dilyn y cyhoeddiad penderfynodd y Cyngor ddechrau ar y broses o benodi olynydd i’r Athro Lloyd. Mae disgwyl i’r broses honno gael ei chwblhau erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd 2011/12.

Ym mis Mehefin derbyniodd yr Athro Lloyd y CBE am ei wasanaeth i Addysg Uwch yng Nghymru. Cyn ei gyfnodau fel Is-Ganghellor a Chofrestrydd ac Ysgrifennydd, bu hefyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor, Deon y Gwyddorau a Phennaeth yr Adran Fathemateg yn y Brifysgol.

Graddiodd mewn Mathemateg o Brifysgol Caergrawnt, lle y cwblhaodd ei ddoethuriaeth ac yna bu’n Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Sant Ioan. Dadansoddi Aflinol a Sustemau Dynamegol yw ei ddiddordebau ymchwil.

Mae wedi gwasanaethau ar nifer o bwyllgorau Cynghorau Ymchwil a byrddau golygyddol, a bu’n olygydd y Journal of the London Mathematical Society o 1983 tan 1988. Bu’n aelod o Bwyllgor Sicrwydd Safon Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn aelod o fwrdd TEC Canolbarth Cymru ac yna Pwyllgor Rhanbarthol Canolbarth Cymru ELWa.

Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Addysg Uwch Cymru ac yn Is-Lywydd Universities UK. Mae’n aelod o fwrdd UCEA (Universities and Colleges Employers Association) ac yn cadeirio’r pwyllgor Iechyd a Diogelwch a bwrdd y QAA (yr Asiantaeth Sicrwydd Safon), a chadeirio’r Pwyllgor Trwyddedu a Chydnabod Mynediad.

Bu’r Athro Lloyd yn Ysgrifennydd Capel y Morfa, Aberystwyth o 1989 tan 2004 ac mae wedi gwasanaethau fel cadeirydd Bwrdd Yr Eglwys a Chymdeithas Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Mae’n Gymrawd Coleg Cerdd y Drindod, Llundain.

au11410