Pennaeth Newydd i’r Gyfraith a Throseddeg

Yr Athro Noel Cox

Yr Athro Noel Cox

28 Gorffennaf 2010

Penodwyd yr Athro Noel Cox yn Bennaeth newydd ar Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Daw’r Athro Cox i’r Brifysgol o Brifysgol Technoleg Auckland lle y bu’n Athro’r Gyfraith ac yn Bennaeth ar Adran y Gyfraith.  

Fe’i ganed a’i magwyd yn Auckland, Seland Newydd, ac mae gan yr Athro Cox sawl gradd, gan gynnwys Meistr Cyfreithiau a Baglor Cyfreithiau o Brifysgol Auckland; Athro Athroniaeth mewn Astudiaethau Gwleidyddiaeth, a Meistr Diwinyddiaeth. Mae ganddo hefyd radd Meistr yn y gyfraith eglwysig drwy Arholiad Archesgob Caergaint mewn Diwinyddiaeth, a Thrwydded mewn Diwinyddiaeth o Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan.

Cyfraith gyfansoddiadol yw ei brif ddiddordeb ymchwil ac mae hefyd yn ymddiddori yn y Gyfraith Eglwys-Gwladwriaeth a chyfraith seibr-ofod. Ar ben hynny, mae’r Athro Cox wedi ysgrifennu mwy na chant o bapurau academaidd a phedwar llyfr. Yn 1994, enillodd yr Athro  Cox Wobr Goffa Fowlds i fyfyriwr disgleiriaf Cyfadran y Gyfraith ym Mhrifysgol Auckland. Yn ddiweddarach fe gafodd Wobr Rhagoriaeth yr Is-Ganghellor am Ymchwil ym Mhrifysgol Technoleg Auckland ac yn 2004 fe’i hetholwyd yn Gymrawd i’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol (FRHistS) am ei waith ar gyfreitheg y Gymanwlad.

Ar ben ei waith academaidd, cafodd yr Athro Cox ei dderbyn a’i gofrestru yn Fargyfreithiwr a Chyfreithiwr i Uchel Lys Seland Newydd yn 1988. Bu’n gweithio ar sawl achos cyfreithiol a gafodd gryn sylw yn Seland Newydd ac Awstralia ac ef oedd y prif ymgynghorydd mewn prosiect a ariannwyd gan Fanc y Byd a ymchwiliodd i safonau a moeseg proffesiwn y gyfraith yng Nghenya. 

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd yr Athro Cox: “Rwyf wrth fy modd yn symud i Aberystwyth. Des i’r dre am y tro cyntaf yn ystod cynhadledd ar y Gyfraith a gynhaliwyd gan yr Adran, ryw wyth mlynedd yn ôl . Mae’r syniad o fwrw ymlaen â llwyddiannau Adran hirsefydlog y Gyfraith a Throseddeg yn un cyffrous, ac edrychaf ymlaen at roi egni newydd a datblygu Adran y Gyfraith sydd eisoes uchel ei pharch, yr hynaf yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen yn benodol at ddatblygu’r ystod o gynlluniau gradd sydd ar gael i raddedigion, a datblygu ein portffolio ymchwil ar yr un pryd.”

Croesawyd y penodiad gan yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth. Dywedodd yr Athro Lloyd: “Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg wedi’i hen sefydlu ac mae’n rhan bwysig o broffil academaidd y Brifysgol. Mae ei graddedigion yn parhau i wneud cyfraniadau o bwys i broffesiwn y gyfraith ac mae’n dda gennyf weld y gwaith yn cael ei ddatblygu mewn Troseddeg. Rwy wrth fy modd ein bod wedi penodi’r Athro Cox i swydd Pennaeth yr Adran ac rwy’n ei groesawu’n gynnes i Brifysgol Aberystwyth. Mae ei ymroddiad i’r swydd a’r Brifysgol yn amlwg gan ei fod yn symud i Gymru o Seland Newydd. Dymunaf bob llwyddiant iddo.”

Cychwynnodd yr Athro Cox yn ei swydd newydd y mis hwn, ac fe fydd ei wraig, Katy, yn ymuno ag ef yn ddiweddarach eleni.