Cof a’r Cyfryngau yng Nghymru 1950-2000

Dr Iwan Morus

Dr Iwan Morus

03 Awst 2010

Ydych chi’n cofio eistedd o flaen y teledu i wylio Coroni’r Frenhines ym 1953, lluniau erchyll trychineb Aberfan, darllediad arloesol cyntaf S4C, neu’r tensiwn cynyddol wrth i ganlyniadau refferendwm datganoli 1997 gael eu cyhoeddi?

Atgofion o’r fath fydd sail ‘Cof a’r Cyfryngau yng Nghymru 1950-2000’, astudiaeth newydd i ddylanwad teledu ar fywyd teuluol yng Nghymru yn ystod ail hanner yr 20ed ganrif, “oes y teledu”.

Bydd ‘Cof a’r Cyfryngau yng Nghymru 1950-2000’ yn cael ei lansio ar stondin Prifysgol Aberystwyth yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Mawrth 3 Awst am 2.30 y prynhawn.

O dan arweinyddiaeth Dr Iwan Morus a Dr Jamie Medhurst o Brifysgol Aberystwyth bydd ymchwilwyr yn recordio cyfweliadau gyda phobl yn Wrecsam, Caernarfon, y Rhondda a Chaerfyrddin am eu hatgofion o wylio digwyddiadau hanesyddol ar y teledu a sut mae'r rhain yn adlewyrchu eu hymdeimladau o berthyn a hunaniaeth.

Y digwyddiadau hanesyddol yw: Coroni Elizabeth II (1953), boddi dyffryn Tryweryn (1950au), trychineb Aberfan (1966), Arwisgo Charles yn Dywysog Cymru (1969), Oes Aur Rygbi Cymru (1970), y Refferendwm Gyntaf ar Ddatganoli (1979), Lansio Sianel Pedwar Cymru (1982), Streic y Glowyr (1984-5) / Cau Pyllau Glo, a’r Ail Refferendwm ar Ddatganoli (1997). 

Drwy weithio gyda Culturenet Cymru bydd y cyfweliadau yn ffurfio archif ddigidol ddwyieithog ar-lein lle bydd aelodau o’r cyhoedd yn gallu cyfrannu eu hatgofion eu hunain ar ffurf lluniau, sain a fideo.

Dywedodd Dr Iwan Morus: “Mae’n wireb fod bywyd teuluol yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif wedi troi yn gynyddol o amgylch y set deledu a oedd yn ganolbwynt - yr unig ganolbwynt yn aml - yr ystafell fyw. Ein nod yw casglu ac archifo atgofion pobl o oes y teledu yng Nghymru, o weld set deledu am y tro cyntaf i wylio’r digwyddiadau teledu pwysig yma.” 

“Trwy ganolbwyntio ar bedair cymuned ddaearyddol ac ieithyddol wahanol ac arbennig ein nod yw dwyn ynghyd sbectrwm o atgofion sy’n cynrychioli cof cyfunol cenedlaethol am deledu yng Nghymru.”

“Mae’r cyd-destun Cymreig yn arbennig o berthnasol i’r prosiect ac yn ychwanegu’n sylweddol at ei werth gan fod hanes teledu yng Nghymru wedi bod yn un o wrthdaro am resymau gwleidyddol ac ieithyddol. Am lawer o’r hanner can mlynedd dan sylw roedd teledu yn faes brwydr am hunaniaeth ieithyddol a chenedlaethol. Bydd yr archif a ddaw yn sgil y prosiect hwn yn adnodd o bwys er mwyn deall gwleidyddiaeth teledu.”

Cyllidwyd ‘Cof a’r Cyfryngau yng Nghymru 1950-2000’ gan JISC (Joint Information Systems Committee) gyda dyfarniad o £93,000.

Bydd cyfweliadau ar gyfer y prosiect yn cael eu cynnal yn ystod hydref 2010. Mae gwahoddiad i bobl sydd yn byw yn Wrecsam, Caernarfon, y Rhondda a Chaerfyrddin sydd yn dymuno cael eu cyfweld i gynnig eu henwau drwy anfon eu manylion at info@culturenetcymru.com.

Mae disgwyl i’r wefan gael ei lansio yng ngwanwyn 2011. Bydd modd cyrraedd at y cynnwys hefyd drwy wefan Casgliad y Werin Cymru http://www.casgliadywerin.com.

Mae Dr Iwan Rhys Morus yn Ddarllenydd yn Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn hanesydd gwyddoniaeth, technoleg a meddygaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae wedi cyhoeddi yn eang yn y meysydd yma ac wedi goruchwylio prosiectau ymchwil yn llwyddiannus megis Gwyddoniaeth a Diwylliant Yng Nghymru’r Ddeunawfed Ganrif a gyllidwyd gan Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru. 

Mae Dr Jamie Medhurst yn Uwch Ddarlithydd ac yn Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth.  Mae ei ddiddordebau dysgu ac ymchwil yn cynnwys hanes darlledu a pholisi darlledu. Yn ogystal mae ganddo ddiddordeb mewn rôl radio a theledu a materion sydd yn ymwneud â hunaniaeth genedlaethol. Mae’n aelod o’r Rhwydwaith Ewropeaidd mewn Hanes Teledu ac ar Fwrdd Canolfan Hanes y Cyfryngau yn y Brifysgol.