Aberystwyth yn parhau i arwain ar Foddhad Myfyrwyr

Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

18 Awst 2010

Mae Prifysgol Aberystwyth, am y chweched flwyddyn yn olynol, ar y brig o ran boddhad myfyrwyr.

Fe roddodd Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2010 sgôr o 4.4 (ar raddfa o 1-5 am foddhad myfyrwyr), yr ail uchaf i unrhyw Brifysgol breswyl yn y Deyrnas Gyfunol a thu cefn i Brifysgol Rhydychen.  Mae Aberystwyth hefyd yn 5ed ar draws holl Brifysgolion y DG ac yr uchaf yng Nghymru o ran bodlonrwydd myfyrwyr.

Mae’r canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw yn cefnogi’r hyn a welwyd o fewn tablau cynghrair Addysg Uwch diweddar gyda Phrifysgol Aberystwyth yn cryfhau ei safle wrth symud i fyny 22 lle yn y Guardian University Guide, 6 lle yn y Times Higher Education University Guide a 7 lle yng nghynghrair yr Independent. Yn gynharach eleni cafodd y Brifysgol ei hethol fel ‘mwy na thebyg y lle gorau yn y byd i fod yn fyfyriwr’ yn y Baromedr Myfyrwyr Rhyngwladol 2009. 

Mae’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn arolwg blynyddol sy’n ceisio cynnig gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr am ble a beth i’w astudio.  Bu 252,000 o fyfyrwyr yn rhan o’r arolwg eleni, sy’n gynnydd o 30,000 ar y llynedd ag yn gyfradd ymateb o 63.1%

Mae bodlonrwydd cyffredinol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn parhau i fod yn uchel iawn ag yn 92% - cynnydd o 2% ar ganlyniadau 2009 a 10% yn uwch na chyfartaledd Cymru a’r DG.

Gofynnwyd cwestiynau i’r myfyrwyr mewn saith maes: ‘dysgu ar fy nghwrs’; ‘asesu ac adborth’; ‘cymorth academaidd’; ‘trefn a rheolaeth’; ‘adnoddau dysgu’; ‘datblygiad personol’; a ‘bodlonrwydd cyffredinol’.

Y pynciau sydd ar y brig ym Mhrifysgol Aberystwyth am ‘foddhad cyffredinol’ gyda sgôr o 4.5 neu’n uwch, ar raddfa o 1-5, yw:
• Amaeth
• Bywydeg
• Astudiaethau Celtaidd
• Saesneg
• Daearyddiaeth Ffisegol
• Gwyddor Chwaraeon

Mae’r pynciau a lwyddodd i gyrraedd lefel tu hwnt i’r cyfartaledd ar gyfer y DG am ‘foddhad cyffredinol’ yn cynnwys:
• Cyfrifeg
• Amaeth
• Cinemateg
• Cyfrifiadureg
• Drama
• Celfyddyd Gain
• Daearyddiaeth Ffisegol
• Gwyddor Chwaraeon

Wrth wneud sylw ar lwyddiannau’r Brifysgol, dywedodd Yr Athro Martin Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae hyn yn ganlyniad arbennig o dda. Mae llwyddiannau’r sefydliad yn gynyddol galonogol.  Rydym yn llwyddo i ddangos cynnydd blynyddol ac rwy’n hynod falch i’n hymdrechion gael eu hadlewyrchu gan yr arolygon hyn a chan foddhad ein myfyrwyr - yn arbennig mewn amgylchedd o doriadau cyllidebol a thensiynau economaidd. Mae llwyddiant y Brifysgol wrth recriwtio myfyrwyr eleni hefyd yn fesur o hoffter y myfyrwyr am y Brifysgol. Yn fyr, rydym i gyd wedi gweithio’n galed i ddatblygu brand ‘profiad myfyrwyr’ Aberystwyth ac fe hoffwn ddiolch i’n myfyrwyr, staff academaidd a chefnogol, a’r Undeb am greu’r amgylchedd addysg a dysgu unigryw.”
 
Cafodd yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr ei gynnal gan Ipsos MORI. Mae’r data ar gael i ddarpar fyfyrwyr, eu rhieni a’r rhai sydd yn eu cynghori, a byddant ar gael ar wefan Unistats
 (http://www.unistats.com/).