Galw mawr am lefydd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

20 Awst 2010

Bu eleni yn flwyddyn anhygoel o ran derbyn lefel ceisiadau.  Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gweld cynnydd o 14% mewn ceisiadau ac mae mwy o ddarpar fyfyrwyr nag erioed o’r blaen  wedi derbyn Aberystwyth fel eu dewis cyntaf.

Ym mis Ebrill eleni fe gyhoeddodd y Brifysgol na fyddai yn ystyried unrhyw geisiadau newydd o fewn y DU/UE ar ôl 15 Ebrill 2010 ac na fyddai yn cynnig llefydd yn UCAS ‘Extra’ nac ychwaith yn rhan o’r broses Clirio 2010.  Prifysgol Aberystwyth yw’r unig Brifysgol yng Nghymru  yn y sefyllfa hon.

Ysgrifennodd y Cyfarwyddwr Derbyn yn ddiweddar  at yr holl fyfyrwyr a oedd  wedi derbyn cynnig i ddweud  na fyddai modd i’r Brifysgol warantu eu cynnig  pe na baent yn cwrdd ag amodau’r cynnig yn llawn (h.y. cyflawni’r graddau angenrheidiol).

Dywedodd yr Athro Aled Jones, y Dirprwy Is-Ganghellor gyda chyfrifoldeb dros recriwtio, “Bu eleni yn flwyddyn nodedig iawn.  Torrwyd pob record yn 2009, ond hyd yn hyn, mae 2010 wedi mynd tu hwnt i unrhyw garreg filltir o ran ceisiadau myfyrwyr.  Mae’r nifer o fyfyrwyr sy’n gwneud cais i ni, yn dewis y Brifysgol fel eu dewis cyntaf ac yna’n mynd ymlaen i dderbyn y cynnig yn uwch o  dipyn nag yn ystod y blynyddoedd a fu.  Mae hyn yn newyddion da iawn i’r Brifysgol ac i economi’r rhanbarth.”
 
“Mae poblogrwydd cynyddol Aberystwyth yn adlewyrchiad o’r addysg a’r gefnogaeth wych a gaiff ein myfyrwyr gan ein staff ynghyd â’r holl gyfleusterau sydd hefyd ar gael.  Mae’r adnoddau academaidd, chwaraeon a diwylliannol sydd i’w cael yn Aber yn ardderchog, rydym i gyd yn gweithio’n galed i geisio eu gwella’n barhaus.”

“Mae Prifysgol Aberystwyth wedi llwyddo i sicrhau safle uchel iawn yn rheolaidd o fewn arolygon bodlonrwydd myfyrwyr.  Rhoddodd yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, yr ail sgôr uchaf ar gyfer unrhyw Brifysgol breswyl gyhoeddus yn y DU i Aberystwyth, sy’n ail yn unig i Brifysgol Rhydychen. Dangosodd canlyniadau diweddar arolwg dylanwadol y Times Higher Education Supplement bod Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfleon dysgu cyffelyb â Phrifysgolion Caergrawnt, Rhydychen a St Andrews. Rydym i gyd, yn fyfyrwyr a staff, yn hynod falch o’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni.” 

Gyda’r Brifysgol yn awr yn llawn ar gyfer 2010, anogir ymgeiswyr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2011/12 i ymweld â’r Brifysgol ar y Diwrnod Agored nesaf a gynhelir ddydd Mercher 15 Medi 2010.  Ceir manylion am y Diwrnod Agored ar wefan y Brifysgol yn
http://www.aber.ac.uk/cy/open-days/