Gwasanaethau i fusnesau

07 Hydref 2010

Mae gan brifysgolion gyfoeth o arbenigedd, adnoddau a gwasanaethau y gall busnesau eu harneisio i’w gwneud eu hunain yn fwy cystadleuol. 

Os nad oes gan fusnesau brofiad blaenorol o gydweithio â phrifysgol, gall fod yn anodd gwybod sut mae mynd ati i ddefnyddio’r adnoddau hyn a phwy i gysylltu â hwy. Ond, mewn  gwirionedd, mae hi’n broses hawdd, fel y bydd Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn dangos trwy gyfrwng cyfres o ddigwyddiadau ‘Gwasanaethau i Fusnesau’ sydd i’w cynnal yng Gogledd a Chanolbarth Cymru yr Hydref sy’n dod.

“Bydd y digwyddiadau’n dangos sut y gall busnesau gyrraedd at yr ymchwil arloesol, yr arbenigedd a’r adnoddau safonol yn y ddau sefydliad, ynghyd â sôn am y dulliau a’r cyfleoedd cyllido sydd ar gael i gefnogi cydweithio rhwng busnesau a phrifysgolion” eglurodd David Craddock, Cyfarwyddwr prosiectau Menter a Chydweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Thema allweddol fydd tynnu sylw at y gwasanaethau y gellir manteisio arnynt trwy wasanaeth ymholiadau canolog, sy’n cynnwys:

•   Mynediad at syniadau arloesol a thechnolegau newydd
•   Cyfleoedd i gael budd o alluoedd blaenllaw ac arbenigedd ymchwil
•   Cyrsiau Datblygu Proffesiynol Parhaus a Hyfforddiant pwrpasol i staff
•   Cyfleoedd i recriwtio gweithwyr tra medrus
•   Prosiectau a lleoliadau wedi eu llenwi gan raddedigion
•   Cysylltiadau â rhwydweithiau lleol a byd-eang

“Edrychwn ymlaen i groesawu busnesau a chyrff o bob rhan o’r Gogledd a’r Canolbarth i’r digwyddiadau hyn.  Os yw eich cwmni wedi gweithio gyda Phrifysgolion Aberystwyth neu Fangor o’r blaen, neu os ydych chi’n ystyried defnyddio ein gwasanaeth am y tro cyntaf, bydd y digwyddiadau hyn yn amlinellu’r cyfleoedd presennol ac yn rhoi cyfle i gyfarfod â chydweithwyr o Swyddfeydd Trosglwyddo Gwybodaeth y Prifysgolion” ychwanegodd Dr David Joyner, Cyfarwyddwr Partneriaethau Busnes a Chysylltu â Busnesau ym Mhrifysgol Bangor.

Ar wahân i fod yn gyfle i rwydweithio yn yr arddangosfa, mae rhaglen y digwyddiadau’n cynnwys cyflwyniad byr ‘Working with Universities’ ynghyd â’r cyfle i glywed yn uniongyrchol gan siaradwr gwâdd a fydd yn rhannu safbwyntiau busnes yn ‘The Benefits of Working Collaboratively’.

Cynhelir digwyddiadau yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru; cofrestrwch heddiw er mwyn gweld sut y gall gwasanaethau Prifysgolion Aberystwyth a Bangor fod o fudd i’ch busnes chi:

Canolbarth Cymru:
Dydd Llun 18fed Hydref 6p.m. - 8p.m.
Lleoliad: Gwesty’r Royal Oak, Y Trallwng, Powys
Cofrestrwch erbyn 15eg Hydref

Gogledd Cymru:
Dydd Iau 11eg Tachwedd  10.00a.m. – 12.30p.m.
Lleoliad: Y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor, Gwynedd
Cofrestrwch erbyn 5ed Tachwedd

Cofrestrwch arlein HEDDIW yn: http://www.aberbangorpartnership.ac.uk/business
Neu, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau i Fusnesau: business@aberbangorpartnership.ac.uk / 0800 032 5533

Os nad oes modd ichi fod yn bresennol, ond yr hoffech ragor o wybodaeth ar y gwasanaethau a gynigir i fusnesau, gofynnwch am becyn gwybodaeth (business@aberbangorpartnership.ac.uk) neu ffoniwch ein llinell ymholiadau ganolog ar 0800 032 5533 i siarad ag un o’r Rheolwyr Datblygu Busnesau.

• Cynhelir digwyddiadau ‘Gwasanaethau i Fusnesau’ gan Bartneriaeth Ymchwil a Menter Prifysgolion Aberystwyth a  Bangor ac fe’u cyd-drefnir gan Swyddfeydd Trosglwyddo Gwybodaeth y ddau sefydliad.
• Partneriaeth Ymchwil a Menter – Prifysgolion Aberystwyth a Bangor: 

Y mae’r bartneriaeth sy’n cael cyllid o £10.9M gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) yn brosiect cydweithredol arloesol a seiliwyd ar enw da a chymhwysedd ymchwil Prifysgolion Aberystwyth a Bangor. Fe’i sefydlwyd yn 2006 gan adeiladu ar ymchwil a systemau cefnogi ymchwil y ddwy Brifysgol.
www.aberbangorpartnership.ac.uk

Cysylltwch â:
Sarah Bizby
Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori
Prifysgol Aberystwyth
Ffôn: 01970 628646 / Ebost: sey@aber.ac.uk

Arthur Dafis 
Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus
Prifysgol Aberystwyth
01970 621763 / aid@aber.ac.uk

AU18610