Cromosomau heb enynnau

Yr Athro Hubert Rees

Yr Athro Hubert Rees

09 Rhagfyr 2010

Darlith Goffa Yr Athro Hubert Rees FRS DFC

Dydd Llun 13 Rhagfyr bydd yr Athro Neil Jones yn traddodi’r ddarlith flynyddol gyntaf er cof am yr Athro Hubert Rees FRS DFC. Pwnc ei ddarlith fydd “Chromosomes without Genes”.

Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal yn Ystafell Gynhadledd William Davies, Campws Gogerddan am 4 y prynhawn gyda lluniaeth ysgafn i ddilyn.

Wrth drafod y ddarlith rhag blaen dywedodd yr Athro Jones:
“Gellid ystyried bod siarad am gromosomau heb enynnau yn heresi, ond mai hon yn un agwedd ar eneteg cromosomau y bûm i a’r Athro Rees yn gweithio arni am nifer o flynyddoedd, yn dechrau gyda fy PhD; mae’n addas iawn felly mai dyma destun y Ddarlith Goffa gyntaf hon.

“Beth mae’n ei olygu i gael cromosomau heb enynnau? Hyd yma nid oes gennym ddewis ond credu’r stori hon, gan ein bod yn gwybod mai dyma sy’n digwydd yn achos miloedd o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid sydd â chromosomau ychwanegol, y byddent ar eu hennill o fod hebddynt. Sut all fod bod organeb yn cario cromosomau nad ydynt yn hanfodol, neu sy’n niweidiol hyd yn oed, heb unrhyw swyddogaeth ddefnyddiol, amlwg?

“Daw’r ateb yn glir o edrych ar y ffordd y’u hetifeddir, a’r mecanweithiau sydd ganddynt i gydbwyso’u heffeithiau niweidiol â mecanweithiau sy’n cynyddu eu niferoedd o un genhedlaeth i’r llall. I bob pwrpas maent yn gromosomau hunanol, sy’n bodoli i luosogi eu hunain yn unig: fel math o barasitiaid o fewn y genom.”

Bydd y ddarlith hon yn cyflwyno cefndir y stori, ac yna’n trafod achosion lle maent yn digwydd, eu heffeithiau, dulliau etifeddu, gwybodaeth newydd ar drefn rhediad DNA, a’u tarddiad posibl yn y grawnfwyd rhyg, fel model.

Yr Athro Hubert Rees FRS DFC
Yn ogystal â bod yn wyddonydd blaenllaw Prydeinig Roedd yr Athro Hubert Rees, a fu farw yn Medi 2009, yn beilot a wobrwywyd am ei waith yn ystod y rhyfel. Wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Botaneg Amaethyddol ym 1950 cafodd ei swydd gyntaf fel Darlithydd mewn Sytoleg yn Adran Geneteg a oedd newydd ei sefydlu bryd hynny ym Mhrifysgol Birmingham. Dychwelodd i Aberystwyth yn 1958 yn dilyn ei apwyntio yn Uwch Ddarlithydd mewn Botaneg Amaethyddol. Aeth ymlaen i fod yn Bennaeth Adran ac ym 1983 ei benodi yn Is-Brifathro. Ymddeolodd yn 1991. Cafodd ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1976.

AU23210