UKPASS

Yr Hen Goleg a thre Aberystwyth.

Yr Hen Goleg a thre Aberystwyth.

13 Ionawr 2011

Prifysgol Aberystwyth yw’r gyntaf yng Nghymru i ymuno â UKPASS, y gwasanaeth ymgeisio ar-lein i ddarpar fyfyrwyr uwchraddedig.

Mae UKPASS, a sefydlwyd yn 2007, yn cael ei redeg gan UCAS, y gwasanaeth ymgeisio i ddarpar israddedigion, ac mae’n galluogi darpar fyfyrwyr uwchraddedig ledled y byd i chwilio ar-lein am gyrsiau ac ymgeisio i astudio mewn prifysgolion ym Mhrydain.

Cafodd y datblygiad groeso gan Dr Hywel Davies, Cyfarwyddwr Denu a Derbyn Prifysgol Aberystwyth; “Yn ogystal â hwyluso’r drefn o ddod o hyd i gyrsiau addas ac ymgeisio, mae’r gwasanaeth di-dâl hwn yn hyblyg iawn,” dywedodd.

“Mae’n wasanaeth treigl, sy’n caniatáu nifer o ddyddiadau cychwyn posibl drwy’r flwyddyn, a hefyd mae’r cyfan yn digwydd ar-lein sy’n lleihau costau papur ac yn osgoi oedi wrth anfon y cais. Yn ogystal, gellir cyflwyno cais yn Gymraeg neu yn Saesneg - yr unig ddarparwr o’r math hwn i gynnig y nodwedd hanfodol hon,” ychwanegodd.

Gan fod gwybodaeth graidd yr ymgeisydd yn cael ei chynnwys mewn ‘cyfrif’ unigol, does dim angen i ymgeiswyr gwblhau ffurflenni di-rif ar gyfer pob cais - gellir anfon ceisiadau ar gyfer hyd at ddeg o gyrsiau gwahanol yn y sefydliadau a gynrychiolir ar UKPASS.

Yn ogystal mae modd cynnwys hyd at 5Mb o atodiadau gyda’r cais, a cheir cyfleuster sy’n caniatáu i’r ymgeisydd ddiweddaru’r wybodaeth ar-lein ar unrhyw adeg.

Unwaith y bydd y cais wedi’i gyflwyno, gall yr ymgeisydd ddilyn ei hynt a chael yr wybodaeth ddiweddaraf ar-lein ar unrhyw gam yn y broses. Mae hyn yn golygu y gall y darpar fyfyriwr gael gwybodaeth llawer yn gynt a hefyd mae’n lleihau’r nifer o ymholiadau y mae’n rhaid i staff ymdrin â nhw. Pan fydd pob cam penodol yn cael ei gwblhau, bydd yr ymgeisydd yn cael ei hysbysu fel mater o drefn â neges e-bost.

Er mai’r myfyriwr sy’n ganolog i’r system, gellir teilwra’r gwasanaeth i gydweddu ag anghenion penodol, a defnyddir brandio’r brifysgol yn ogystal.

Caiff UKPASS ei redeg ochr yn ochr â llwybrau ymgeisio cyfredol, gyda’r holl geisiadau’n cael eu lawrlwytho i gronfa ddata AStRA Prifysgol Aberystwyth. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan http://www.ukpass.ac.uk/.

AU0311