Seminar Refferendwm

Adeilad Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol

Adeilad Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol

17 Ionawr 2011

Wrth i’r paratoadau gael eu gwneud ar gyfer y Refferendwm ar y 3ydd o Fawrth, mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a phrosiect Voices for Change Cymru’r WCVA yn trefnu dau seminar, yn Aberystwyth a Chaerdydd, seminarau fydd yn rhannu gwybodaeth am y refferendwm ac yn cynnig cyfle i drafod oblygiadau’r Refferendwm i amrywiol feysydd polisi allweddol.

Cynhelir seminar Aberystwyth yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar y 19eg o Ionawr rhwng 1730 a 1900, gyda phaned ar gael o 1700 o’r gloch ymlaen. Ceir cyflwyniad byr i’r Refferendwm gan brosiect Voices for Change Cymru, a thrafodaeth ar oblygiadau’r Refferendwm i feysydd Materion Gwledig, yr Amgylchedd, a’r Economi. Cadeirydd y digwyddiad fydd Dr Elin Royles, ac arweinir y drafodaeth gan Huw Thomas (NFU Cymru), Morgan Parry (Cadeirydd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru), a Russell Lawson (Ffederasiwn Busnesau Bach).

Cynhelir seminar Caerdydd yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, ar y 26ain o Ionawr rhwng 1730 a 1900, gyda phaned ar gael o 1700 ymlaen. Agorir y seminar gan Lywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a cheir cyflwyniad byr i’r Refferendwm eto gan brosiect Voices for Change  Cymru. Bydd y seminar hwn yn canolbwyntio’n benodol ar feysydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cyfiawnder Cymdeithasol a Thai. Cadeirydd y digwyddiad fydd yr Athro Roger Scully, a’r siaradwyr allweddol fydd Lisa Turnbull (Coleg Nyrsio Brenhinol), Fran Targett (Cyngor ar Bopeth Cymru), a John Puzey (Shelter Cymru).

Wrth edrych ymlaen at y seminarau, dywedodd yr Athro Scully, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru: “Yn ystod y ddeufis nesaf, bydd yr Ymgyrch Ie a’r Ymgyrch Na yn y Refferendwm yn gwneud eu gorau glas i berswadio pobl i bleidleisio un ffordd neu’r llall. Yn y seminarau yma rydym yn ceisio gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol: treulio ychydig  o amser yn ystyried goblygiadau canlyniad y Refferendwm i fywydau pobl o ddydd i ddydd. Gobeithio’n fawr y bydd hyn yn gymorth i fynychwyr y seminarau gasglu gwybodaeth am yr hyn sydd yn y fantol, a pha fath o Gymru y gallwn ddisgwyl ei gweld wedi’r Refferendwm – beth bynnag fo’r canlyniad.”

Mae’r digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim ac yn agored i’r cyhoedd. Os dymunwch gofrestru, gofynnwn i chi anfon neges at  Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru / Institute of Welsh Politics: sgc.iwp@aber.ac.uk.

Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru
Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn ganolfan ymchwil annibynnol ac amhleidiol o fewn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Fe’i sefydlwyd i hybu astudiaeth academaidd a dadansoddiad ar bob agwedd o wleidyddiaeth Cymru. Gan adlewyrchu ei gartref o fewn Adran Cysylltiadau Rhyngwladol hynaf y byd, mae gwaith y Sefydliad yn cynnwys astudiaeth o’r prosesau gwleidyddol o fewn Cymru ond hefyd gysylltiadau gwleidyddol ac economaidd-wleidyddol Cymru â Phrydain, Ewrop, a gweddill y byd.