Cadair er Anrhydedd am wasanaeth i Ymchwil Coedwigaeth

Dr Hugh Evans

Dr Hugh Evans

24 Mai 2011

Mae Dr. Hugh Evans, Pennaeth Ymchwil Coedwigoedd yng Nghymru, wedi cael teitl Athro er Anrhydedd am wasanaeth i Ymchwil Coedwigaeth.

Mae’r Gadair yn cael ei chefnogi ar y cyd gan IBERS – Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig – ac IGES, y Sefydliad Daearyddiaeth ac Astudiaethau Daear yn y brifysgol.

Mae Dr Hugh Evans yn entomolegydd a gwyddonydd ymchwil o fri gydag enw da rhyngwladol. Mae’n arwain nifer o grwpiau ymchwil rhyngwladol yn ogystal â phrosiectau Ymchwil Coedwigoedd. Mae hefyd yn gwasanaethu ar nifer o grwpiau cynghori rhyngwladol.

Meddai Dr. Evans: “Rwyf wrth fy modd ac yn ei theimlo’n anrhydedd i gael cadair er anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth ac rwy’n edrych ymlaen at ehangu’r berthynas ffrwythlon sydd gen i eisoes gyda chydweithwyr yn IBERS ac IGES – perthynas sydd wedi bod yn gynhyrchiol ac yn ysbrydoledig.

“Mae gwaith ymchwil yng Nghymru, yn enwedig ym meysydd coedwigaeth, newid hinsawdd a’r sector gwledig, yn fywiog iawn ac rwy’n frwd tros gydweithio gyda grwpiau a sefydliadau ymchwil er mwyn cynyddu ein gallu i ymchwilio yng Nghymru.

“O fod yn y Brifysgol, rwyf fi a’r tîm Ymchwil Coedwigoedd yng Nghymru’n gallu cysylltu’n uniongyrchol gydag academyddion o gyffelyb fryd, gyda’u gwaith nhw’n cydredeg â’r hyn yr ydyn ni’n ei wneud o fewn YC Cymru. Mae’n creu cyfle am ragor o gydweithredu gydag asiantaethau eraill ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

“Rwy’n teimlo’n arbennig o gyffrous am ein cynlluniau, ynghyd â gwyddonwyr yn IBERS ac IGES, i lansio Llwyfan  Ymchwil Dalgylch Dyfi a Choetiroedd yn ddiweddarach eleni – cynllun ymchwil newydd o bwys a fydd yn gwneud defnydd o arbenigedd ein grwpiau ymchwil.”

Yn ogystal â’r dimensiwn rhyngwladol, mae Ymchwil Coedwigoedd Cymru’n cefnogi gweithgareddau Comisiwn Coedwigaeth Cymru er mwyn cyflawni amcanion Coetiroedd i Gymru, strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer coed a choedlannau.

Mae bellach yn cyflogi 15 o bobl ar draws y wlad a daeth Dr. Evans yn bennaeth ar y corff yn 2008.

Yn dilyn cynllun Ymchwil Coedwigoedd i ehangu ei waith yng Nghymru, penderfyniad cyntaf Dr. Evans oedd sefydlu ei bencadlys oddi mewn i Swyddfa Genedlaethol Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn Aberystwyth.

Ar ôl agor ym mis Ionawr 2009, profodd yn ganolfan ddelfrydol, gydag Adran Materion Gwledig Llywodraeth y Cynulliad yn symud i’r dref, a’r cyfle i fanteisio ar yr arbenigedd amgylcheddol ac ecolegol sydd i’w chael yn y Brifysgol, yn IBERS ac IGES, gan roi cyfle am ymchwil ar y cyd.

Roedd symudiad pellach tîm gwyddonol Ymchwil Coedwigoedd Cymru i adeilad Edward Llwyd yn IBERS ar Gampws Penglais yn cryfhau ymhellach y gallu i gydweithio ar ymchwil gyda’r ddwy adran.

Enghraifft ardderchog o hyn yw datblygiad Llwyfan Ymchwil Dalgylch Dyfi a Choetiroedd a fydd yn cael ei lansio’n fuan.

Meddai’r Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS: “Mae penodiad Dr. Hugh Evans yn cynnig adnodd cryf i IBERS-IGES, i’n partneriaeth bwysig gyda Phrifysgol Bangor (trwy’r Gynghrair Fiowyddonol, Amgylcheddol ac Amaethyddol) ac i’r cymunedau ehangach yn y byd academaidd a’r sector cyhoeddus. Yn benodol, bydd ei benodiad yn rhoi ffocws clir a strategol i’n pwyslais cynyddol ar y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan ecosystemau.”

Meddai’r Athro Mike Woods, Cyfarwyddwr IGES: ”Rydym yn cydweithio gydag Ymchwil Coedwigoedd Cymru ar nifer o brosiectau ymchwil cyffrous, gan gynnwys defnyddio technolegau synhwyro o bell a deall effaith coedwigoedd ar batrymau hydrolegol. Mae’r rhain yn enghreifftiau pwysig o’r modd y mae’r brifysgol yn gweithio gydag asiantaethau cyhoeddus er lles Cymru, ac mae penodiad Dr. Evans yn Athro er Anrhydedd yn cryfhau’r berthynas glos hon ymhellach.

“Mae rhoi teitl Athro Prifysgol er Anrhydedd yn cydnabod cyfraniad academaidd Dr Evans i’w ddisgyblaeth a pha mor bwysig yw ei pherthynas gyda Llywodraeth Cymru i’r Brifysgol. Bydd hefyd yn cryfhau ‘r corf o waith sawl-disgyblaeth sy’n digwydd rhwng IGES ac IBERS.”

Cafodd Dr. Hugh Evans ei eni ym Mangor a graddiodd gyda BSc (Anrh) mewn sŵoleg o Brifysgol Caerdydd yn 1970. Aeth yn ei flaen i wneud gwaith ymchwil ar gyfer doethuriaeth yn Adran Entomoleg Hope ym Mhrifysgol Rhydychen. Ar ôl cwblhau ei DPhil ym mis Medi 1973, ymunodd gyda Sefydliad Firoleg NERC, Rhydychen (CEH Rhydychen erbyn hyn) lle bu’n gweithio ar ecoleg a defnydd ymarferol firysau pathogenaidd mewn trychfilod.

Ymunodd gydag Ymchwil Coedwigoedd yn brif entomolegydd ym mis Chwefror 1984 a chafodd ei benodi’n bennaeth yr Adran Iechyd Coed ym mis Mehefin 2004. Roedd ganddo gyfrifoldeb arbennig am gydlynu gyda sefydliadau ymchwil yng Nghymru ac mae’n gwneud llawer o waith ym maes bioddiogelwch coedwigoedd a choedlannau, gyda phwyslais ar fygythiadau i iechyd planhigion syn codi o rywogaethau goresgynnol anfrodorol o blâu. Mae’n Gadeirydd ar uned rhywogaethau goresgynnol dieithr a masnach ryngwladol gydag Undeb Rhyngwladol y Cyrff Ymchwil Coedwigoedd, yn aelod o Banel Cwarantîn Panel Plâu Coedwigoedd  Corff Gwarchod Planhigion Ewrop a’r Môr Canoldir. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn rheolaeth fiolegol ar blâu coedwig a phrofiad ymchwil yn y maes, ac mae wedi gweithio mewn coedwigoedd yng Nghymru yn ei swydd bresennol a rhai blaenorol. Mae gan Dr Evans gysylltiadau cryf gyda’r brifysgol, yn enwedig trwy oruchwylio myfyrwyr PhD.

Ymchwil Coedwigoedd yw adain ymchwil y Comisiwn Coedwigaeth ac mae’n gwneud gwaith ymchwil ac yn trosglwyddo technoleg a rhoi cyngor ar ystod eang o bynciau’n ymwneud â choedwigoedd. Cafodd yr Uned yn Aberystwyth ei sefydlu ym mis Ionawr 2009 ac mae’n gweithio gyda’r sectorau coedwigoedd a choedlannau i ddatblygu dulliau mwy penodol o ddatblygu a darparu casgliadau ymchwil sy’n berthnasol i Gymru.

AU12411