Rhannu Gwersi Dwyieithrwydd

Dr Marion Loeffler, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru; Dr Andrew James Davies, Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth; Owen Phillips, Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol; Ines Klausch, Arweinydd Cwrs gyda 45 o fynychwyr y cwrs.

Dr Marion Loeffler, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru; Dr Andrew James Davies, Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth; Owen Phillips, Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol; Ines Klausch, Arweinydd Cwrs gyda 45 o fynychwyr y cwrs.

17 Awst 2011

Yr wythnos hon bydd tiwtoriaid o’r Almaen yn cael cyfle i gyfoethogi eu dealltwriaeth o ddwyieithrwydd ac o ddysgu iaith ar ymweliad â Phrifysgol Aberystwyth.

Bydd y tiwtoriaid, o ardal Saxony-Anhalt, yn mynychu Ysgol Haf Datblygiad Proffesiynol Parhaus yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes am wythnos ac yn cael cyfle i ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan a’r  Senedd ym Mae Caerdydd fel rhan o’u cyflwyniad i Gymru.

Bydd y sesiynau fydd ar gael i’r tiwtoriaid yn edrych, ymhlith pethau eraill ar sut mae athrawon yn defnyddio iaith wrth gyfathrebu â rhai sy’n dysgu Saesneg, ac yn rhoi cyflwyniad i sut caiff Saesneg ei ddysgu mewn ysgolion yng Nghymru. Bydd cyfranwyr i’r Ysgol Haf hefyd yn rhoi trosolwg o’r system addysg a dwyieithrwydd yng Nghymru.

“Rydyn ni wedi dwyn ynghyd arbenigedd darlithwyr o fewn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol a’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion mewn un pecyn cynhwysfawr, “ eglurodd Dr Andrew James Davies, Cydlynydd yr Ysgol Haf. “Y gobaith yw y bydd y tiwtoriaid yn clustnodi elfennau o arfer da sydd gennym yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn gallu rhoi’r rhain ar waith wrth ddysgu nôl yn yr Almaen.”

Dywedodd Ines Klausch, arweinydd y cwrs ar gyfer y tiwtoriaid o’r Almaen: “Cawsom groeso cynnes iawn gan staff Prifysgol Aberystwyth ac mae pawb yn edrych ymlaen at wythnos o ddysgu a rhannu gwybodaeth am sut mae dwyieithrwydd yn gweithio o fewn ein sefydliadau.  Mae gennym raglen lawn o ddarlithoedd, ymweliadau a gweithgareddau cymdeithasol a fydd yn darparu dealltwriaeth ddefnyddiol o sut mae cymuned ddwyieithog arall yn gweithio.”

AU19611