Arsyllfa Rithwir Dyfi

Y Ddyfi. Llun Chris Denny.

Y Ddyfi. Llun Chris Denny.

07 Hydref 2011

Mae Arsyllfa Rithwir Dyfi yn cynnal tri gweithdy cymunedol yng Nghanolfan Owain Glyndŵr ym Machynlleth ar ddydd Iau 13 Hydref ac mae wedi lansio gwefan syniadau newydd i wahodd trigolion a deiliaid diddordeb eraill i helpu i ddatrys rhai problemau amgylcheddol yn ardal Dyfi a ledled Prydain.

Mae Arsyllfa Rithwir Dyfi, a lansiwyd yn ddiweddar gan ymchwilwyr yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, wedi galw ar y gymuned ehangach i fod yn rhan o’r gwaith o’i datblygu.

Mae’r tim hefyd yn datblygu gwefan newydd fydd yn galluogi pobl i gael mynediad, am y tro cyntaf, at wahanol fathau o ddata amgylcheddol a chyfres o arfau i’w helpu i ddeall a datrys materion amgylcheddol.

Dywedodd yr Athro Mark Macklin, arbenigwr blaenllaw ar afonydd o Brifysgol Aberystwyth: “Dalgylch Dyfi yw un o’r dalgylchoedd afon sydd wedi’i astudio orau yng Nghymru, os nad Prydain. Nawr bydd modd i’r gymuned ddefnyddio a dadansoddi data i ddeall ystod eang o faterion, o newid hinsawdd a bioamrywiaeth i ansawdd dŵr.”

Dewiswyd Arsyllfa Rithwir Dyfi fel enghraifft leol dda gan yr Arsyllfa Rithwir Amgylcheddol, menter peilot ledled Prydain wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol. Felly mae’n bosib y bydd modd i drigolion lleol, cynghorau, gwyddonwyr a sefydliadau amgylcheddol ledled ardal Dyfi ddefnyddio’r arsyllfa i astudio materion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Dywed Dr Paul Brewer, sy’n aelod o’r tîm o Brifysgol Aberystwyth sy’n sefydlu Arsyllfa Rithwir Dyfi “Mae pethau’n datblygu’n gyflym gyda’r ochr dechnegol. Mae’r tîm yn profi bod y math hwn o adnodd yn dechnegol bosibl ac mae’n cynnig erfyn addawol ar gyfer rheoli’r amgylchedd.”

Ychwanegodd Dr Brewer “Ac eto, mae’n amlwg ei fod yn bwysig, wrth adeiladu adnodd technolegol ar gyfer y cyhoedd, i gynnwys y gymuned o’r cychwyn cyntaf. Rydym am gasglu syniadau o blith cymuned Dyfi a ledled Cymru i sicrhau llwyddiant yr arsyllfa.”
I sicrhau bod y llwyfan yn diwallu anghenion y gymuned leol, gwahoddir pawb i ddod i un o’r gweithdai (darperir lluniaeth a bisgedi) a gynhelir ym Machynlleth (manylion isod):

13 Hydref: Canolfan Owain Glyndŵr
09.30 - 12.00 – Ar gyfer sefydliadau amgylcheddol a chymunedol.
12.45 – 15.15 – Gwahoddiad agored i aelodau o’r gymuned

Meddai Dr Nicola Thomas, ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth a rheolwr prosiect Arsyllfa Rithwir Dyfi “Mae ein gweithdai yn gyfle cyffrous i bobl lywio datblygiad yr Arsyllfa.”

“Mae croeso i bawb, oherwydd bydd casglu syniadau’r gymuned yn sicrhau bod yr arsyllfa’n cynnig adnodd y bydd pobl am ei ddefnyddio a’i hyrwyddo’n rheolaidd i helpu i ddatrys problemau’n ymwneud â’r amgylchedd ac ansawdd bywyd,” ychwanegodd.

I drefnu lle yn y gweithdy hwn ewch i'r wefanhttp://www.dyfivo.org.uk/workshops/.

Os oes gennych ddiddordeb yn y prosiect ond nad ydych yn gallu dod i’r gweithdai ar 13 Hydref, mae Arsyllfa Rithwir Dyfi hefyd wedi creu gwefan syniadau yn www.dyfivo.ideascale.com i gasglu adborth y gymuned dros y rhyngrwyd.

AU24211