Dawnsio ar y sgrin

Alex Jones.

Alex Jones.

10 Tachwedd 2011

Cynfyfyrwraig o Aber yn parhau i ddawnsio

Mae Alex Jones, sydd yn raddedig mewn Theatr, Ffilm a Theledu o Aberystwyth, yn parhau i ddangos ei doniau dawnsio gwych ar raglen BBC One, Strictly Come Dancing.   Bydd Alex, â’i chymar dawnsio James Jordan ar ein sgriniau ar nos Sadwrn am 6.55pm ar BBC One Wales.

http://www.bbc.co.uk/strictlycomedancing/

Ers mis Awst 2010, mae Alex wedi bod yn un o brif gyflwynwyr y rhaglen nosweithiol, The One Show. Cyn hyn bu’n wyneb cyfarwydd ar deledu Cymru am nifer o flynyddoedd. Yn wreiddiol o Rydaman yn Sir Gâr, astudiodd Alex yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yma yn Aberystwyth.

Rydym yn dymuno’n dda iddi ar nos Sadwrn.

AU26911