Canu fel cana’r aderyn

12 Rhagfyr 2011

Mae adar sy’n canu mewn cywair uwch yn helpu eu caneuon i deithio ymhellach mewn ardaloedd adeiledig.

Credid yn flaenorol bod titwod mawr ac adar cyffredin eraill yn canu mewn cywair uwch mewn ardaloedd swnllyd i osgoi’r synau cywair isel a grëir gan draffig a diwydiant.

Nawr, mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Copenhagen wedi darganfod mai’r adeiladau sy’n newid y modd mae adar yn canu mewn dinasoedd.

Mae eu hastudiaeth newydd, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn PLoS One, yn awgrymu y gallai pensaernïaeth ddinesig fod yn elfen cyn bwysiced â sŵn cefndir ar gyfer siapio sut mae adar yn canu.

“Mae ein dinasoedd yn llawn arwynebau adlewyrchol, mannau agored a sianelu cul, elfennau nad ydynt i’w cael mewn coedwigoedd. Gan fod synau’n atseinio ac yn teithio mewn gwahanol ffyrdd, mae’n rhaid i adar ddefnyddio caneuon sy’n gallu ymdopi â hyn.”, meddai’r ymchwilydd Emily Mockford. “Mae’r nodau uwch yn golygu bod adleisiau’n diflannu’n gynt a’r nodyn nesaf yn gliriach”.

Dangosodd canlyniad annisgwyl arall bod caneuon dinesig yn cael eu trosglwyddo’n gliriach mewn coedwigoedd o’u cymharu â chaneuon gwledig yr adar lleol. Felly pam nad yw adar gwledig yn canu caneuon dinesig hefyd?

Meddai Dr Rupert Marshall, Darlithydd mewn Ymddygiad Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth “Mewn coetir, lle mae coed a dail yn rhwystro’r golwg, mae llawer o rywogaethau adar cân yn medru dirnad y pellter rhyngddynt ag aderyn arall oddi wrth y dirywiad yn ansawdd ei gân. Mewn dinasoedd mae yna lai o rwystrau gweledol ac nid yw caneuon yn dirywio mor gyflym, felly mae’n bosib bod adar y ddinas yn canolbwyntio ar gael eu clywed yn unig”.