Medal y Pegynau

Yr Athro Michael Hambrey.

Yr Athro Michael Hambrey.

14 Rhagfyr 2011

Mae’r rhewlifegydd o Brifysgol Aberystwyth, yr Athro Michael Hambrey, wedi ennill ail glespyn i’w Fedal y Pegynau gan y Frenhines am ei ymchwil ar rewlifoedd yn Antarctica.

Enillodd yr Athro Hambrey, sydd yn aelod o Ganolfan Rewlifeg y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, y Fedal am y tro cyntaf yn 1989 am ei ymchwil yn Rhanbarthau’r ddau Begwn, ac yn awr mae’n ymuno â rhestr nodedig o rai sydd wedi ennill y wobr am yr eildro.

Bu’n dysgu daeareg a daearyddiaeth ffisegol yn Aberystwyth ers 1998 a bu’n rhannol gyfrifol am sefydlu Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru yn 2009 , ac ef oedd cyfarwyddwr cyntaf y Consortiwm.

Cyflawnodd ymchwil maes eang ar ymateb rhewlifoedd a haenau iâ i’r newid yn yr hinsawdd, nid yn unig ym Mhegynau’r De a’r Gogledd, ond hefyd yn yr Alpau, mynyddoedd yr Himalaia a’r Andes. 

Yn gyfan gwbl treuliodd 10 tymor maes yn Antartica a thua 20 yn yr Arctig, ac y mae taith bellach i Antartica wedi ei threfnu ym mis Chwefror.

Y mae’r dyfyniad o Swyddfa Hydrograffeg y Deyrnas Gyfunol yn darllen fel hyn: “Bu’n bleser graslon gan Ei Mawrhydi'r Frenhines i ddyfarnu i chi ail glespyn i’ch Medal y Pegynnau i gydnabod eich gwaith eithriadol barhaus ar rewlifeg sydd wedi cyfrannu i wasanaeth gwyddonol yr ymchwil a’r arolwg a wneir gan y Deyrnas Unedig yn Antarctica.

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd yr Athro Hambrey: “Rwy’n teimlo ei bod yn anrhydedd fawr iawn i dderbyn y wobr hon, ond ni fyddai’n bosib heb gymorth diflino cydweithwyr a graddedigion, yn ogystal â chymorth ariannol ac ymarferol nifer o fudiadau rhyngwladol.”

“Y mae ein hymchwil yn hanfodol er mwyn deall sut y mae’r “cryosffer” (yr iâ a’r eira ar y blaned) yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Y mae’r rhewlifau sy’n encilio ledled y byd, yn enwedig, yn arwydd clir o effaith cynhesu byd eang. Fel rhewlifwyr, mae gwaith maes yn mynd â ni i rai o ranbarthau harddaf y ddaear, fel y mae gwylwyr y gyfres “Frozen Planet” ar BBC1 yn sicr wedi sylweddoli.”

“Ydy, mae’r gwaith yn gallu bod yn galed ac yn rhwystredig, er enghraifft pan fyddwn yn gwersylla ar silff iâ ynghanol storm eira am bum niwrnod, fel y digwyddodd i grŵp ohonom fis Rhagfyr diwethaf yn Antarctica. Serch hynny, mae’r elfennau sy’n gwneud yn iawn am hynny yn anferth: tirwedd rhew godidog, cyfarfyddiadau agos â bywyd gwyllt, a chwmnïaeth dda, a hyd yn oed y boddhad o ysgrifennu ein canlyniadau a phrofi llymder y broses adolygu gan gymheiriaid.”

Sefydlwyd Medal y Pegynnau yn 1904 i wobrwyo cyfraniad aelodau tîm Capten Robert Scott i fforio yn Antarctica. Ymhlith eraill a’i derbyniodd bu’r fforiwr enwog arall yn yr Antarctig, Syr Ernest Shackleton, Syr Wally Herbert, y cyntaf i groesi Môr yr Arctig trwy Begwn y Gogledd, a’r fforiwr cyfoes Syr Ranulph Fiennes.

Bydd Yr Athro Hambrey yn derbyn y wobr mewn arwisgiad ym Mhalas Buckingham yn gynnar yn 2012.

Gellir gweld rhai o ddelweddau'r Athro Hambrey o’r Arctic a’r Antarctig ar ei wefan www.glaciers-online.net.