Cyfarwyddwr Newydd i’r Swyddfa Ryngwladol

Rachel Tod

Rachel Tod

06 Ionawr 2012

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi Rachel Tod yn Gyfarwyddwr newydd ar y Swyddfa Ryngwladol.

Symudodd Rachel, sy’n wreiddiol o Seland Newydd, i Aberystwyth yn 2005, ac mae ganddi radd Baglor mewn Masnach gydag arbenigedd mewn Marchnata oddi wrth Brifysgol Otago.

Y mae wedi gweithio mewn nifer o swyddi ym Mhrifysgol Aberystwyth. Tra’n gweithio yn Adran y Gyfraith a Throseddeg sefydlodd y cwrs ymarfer cyfreithiol, ac ers 2009 bu’n Swyddog Marchnata a Recriwtio i Uwchraddedigion gyda dyletswydd dros recriwtio myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd.

Tra’n siarad am ei swydd newydd, dywedodd Rachel: “Dwi’n hapus dros ben o gael fy mhenodi i’r swydd gyffrous hon ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r tîm i hyrwyddo’r Brifysgol ger bron ein darpar fyfyrwyr, cefnogi yr ymgyrch i recriwtio staff rhyngwladol, a gweithio ar y cyd hefo’n graddedigion a’n sefydliadau partner er mwyn cryfhau’r berthynas rhyngom a datblygu cyfleodd rhyngweithio ystyrlon. Meddylir yn fawr o Aberystwyth ymysg y gymuned ryngwladol, barnwyd mai dyna un o’r llefydd gorau yn y byd i fod yn fyfyriwr, ac edrychaf ymlaen at gael adeiladu ar ein henw da fel Prifysgol fyd eang.”

Dywedodd y Dirprwy Is Ganghellor Hŷn, yr Athro Aled Jones: “Dwi wedi fy mhlesio’n fawr ein bod wedi medru penodi Rachel i’r swyddogaeth bwysig hon o fewn y Brifysgol. Mae ein cydberthynas rhyngwladol yn hanfodol at ddatblygiad ein Prifysgol a dwi’n siŵr y bydd Rachel yn medru manteisio ar y profiad a fagodd tra’n gweithio yn y Swyddfa Farchnata a Recriwtio, yn ogystal â’i phrofiadau personol fel aelod rhyngwladol o’r staff tra’n ymgymryd â’r dasg hon.”

Mae Rachel yn dechrau ar ei swydd newydd yr wythnos hon. Mae’r Swyddfa Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn uned wasanaeth lawn sy’n darparu cefnogaeth ac arbenigedd ar faterion rhyngwladol yn ogystal ag arwain yr ymgyrch recriwtio rhyngwladol a’r agenda gydweithredol.

AU30311