Bwyta’n iach?

Yr Athro John Draper

Yr Athro John Draper

11 Ionawr 2012

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Newcastle wedi dangos eu bod yn gallu dweud pa fwydydd – a faint ohonyn nhw – y mae pobl wedi eu bwyta yn ystod y dyddiau diwethaf, a hynny trwy brofi eu dŵr.

Mae’r hyn yr ydym yn ei fwyta’n cael effaith fawr ar ein hiechyd ond mae’n anodd iawn mesur beth yn union, a faint yn union, y mae pobl yn ei fwyta yn eu bywyd bob dydd – ac mae pobl yn ei chael yn anodd i gofnodi’n onest.

Gall mesur beth mae pobl yn ei fwyta helpu i atal afiechydon trwy ddangos cysylltiad pendant rhwng mathau arbennig o fwyd, a faint ohonyn nhw sy’n cael eu bwyta, a chlefydau penodol.

Trwy brofi dŵr pobl am ‘ôl bysedd’ cemegol gwahanol fwydydd, mae’r prawf yn dangos a yw unigolion yn bwyta deiet iach neu beidio. Sylweddau o’r enw metabolitau yw’r ‘olion bysedd’ hyn ac maen nhw’n unigryw mewn gwahanol fathau o fwyd – mae’r rhai ar gyfer bwydydd iach fel mafon cochion, eog, brocoli a sudd oren eisoes wedi’u nodi.

Y cam nesaf i’r gwyddonwyr yn Aberystwyth a Newcastle yw datblygu prawf syml gyda’r potensial i chwyldroi gofal iechyd trwy ddangos a yw pobl yn bwyta deiet iach neu beidio.

Mae’r prawf newydd yn cael ei ddatblygu gan yr Athro John Draper a’i gydweithwyr yn IBERS (Sefydliad y Gwyddorau Amgylcheddol, Biolegol a Gwledig) yn Aberystwyth a’r Athro John Mathers a’i dîm yng Nghanolfan Ymchwil Maeth Dynol (HNRC) ym Mhrifysgol Newcastle.

Mae’r gwyddonwyr yn hyderus y bydd modd defnyddio’u prawf hefyd i wahaniaethu rhwng bwydydd tebyg e.e. rhwng cig coch, cig gwyn a chig wedi’i brosesu gan helpu, o ganlyniad, i ddeall y cysylltiadau rhwng iechyd a’r bwydydd hyn.

“Mae gan y math yma o brawf botensial anferth o ran y frwydr yn erbyn llawer o afiechydon cronig,” meddai’r Athro John Draper o IBERS, sy’n arwain y gwaith yn Aberystwyth.

“Bydd yn helpu doctoriaid, nyrsys, deietegwyr ac arbenigwyr maeth i ddeall beth y mae eu cleifion wedi bod yn ei fwyta.

Ychwanegodd yr Athro Mathers o Brifysgol Newcastle: “Yn y tymor hir, bydd defnyddio’r math yma o brawf hefyd yn datgelu cysylltiadau newydd rhwng iechyd a phatrymau bwyta.

“Wrth i’n gwybodaeth gynyddu am arwyddion metabolitaidd bwydydd eraill, byddwn yn gallu ychwanegu’r rhain at ein prawf a dylai hynny olygu bod ymchwilwyr yn gallu dweud yn bendant pa fwydydd sy’n help i amddiffyn yn erbyn clefydau penodol a pha rai y dylen ni eu hyrwyddo er mwyn gwella iechyd.”

Nod mwy tymor hir y gwaith ymchwil yma ar y cyd yw datblygu prawf dipstic syml – mesurydd sy’n cael ei drochi yn y dŵr ac a fydd yn cynnig gwybodaeth y funud honno am y prif fwydydd y mae’r person wedi’u bwyta.

Cyfeiriadau:
FAVE G, BECKMANN M, LLOYD AJ, ZHOU S, HAROLD G, LIN W, TAILLART K, XIE, L, DRAPER J, MATHERS JC (2011) Metabolomics7, 469-484. Development and validation of a standardised protocol to monitor human dietary exposure by metabolite fingerprinting of urine samples.

LLOYD AJ, FAVE G, BECKMANN M, LIN W, TAILLIART K, XIE L, MATHERS JC, DRAPER J (2011) American Journal of Clinical Nutrition94, 981-991. ‘Use of mass spectrometry fingerprinting to identify urinary metabolites after consumption of specific foods.’

LLOYD AJ, BECKMANN M, FAVE G, MATHERS JC, DRAPER J (2011) British Journal of Nutrition106, 812-824. ‘Prolinebetaine and its biotransformation products in fasting urine samples are potential biomarkers of habitual citrus fruit consumption.’

AU29811