Camu Ymlaen

Yn Camu Ymlaen mae Rob Johnson (Gwasanaethau Gwybodaeth), Helen Williams (Cynghorydd Iechd, Diogelwch a’r Amgylchedd), Yr Athro April McMahon (Is-Ganghellor) ac Allen Evans (Porthor).

Yn Camu Ymlaen mae Rob Johnson (Gwasanaethau Gwybodaeth), Helen Williams (Cynghorydd Iechd, Diogelwch a’r Amgylchedd), Yr Athro April McMahon (Is-Ganghellor) ac Allen Evans (Porthor).

27 Ionawr 2012

Gan ddechrau ar 30 Ionawr bydd staff Prifysgol Aberystwyth yn gweld pa mor bell y gallant gerdded mewn 60 diwrnod.

Mae’r cynllun Cerdded o Amgylch y Byd, a drefnir gan yr Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn y Brifysgol, yn ceisio annog staff i gymryd egwyl reolaidd ac i wneud dewisiadau cadarnhaol am eu ffordd o fyw drwy gynyddu faint o ymarfer corff a wnânt.

Gan adeiladu ar gynllun 2011, bydd cynllun eleni nid yn unig yn annog staff i gerdded mwy ac i fewngofnodi ar y wefan ond hefyd yn caniatáu i staff gofnodi pa mor bell y byddant yn nofio neu’n seiclo.

Fel yr eglurodd Helen Williams, Ymgynghorydd Cynorthwyol Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, a chyd-gysylltydd y cynllun: “Llynedd, ar y cyd, cerddodd staff y Brifysgol 46,334 milltir mewn 80 niwrnod, digon i fynd o amgylch y byd ddwywaith! Eleni, mewn ymateb i adborth gan staff, rydym hefyd yn cynnwys y pellter sy’n cael ei seiclo a’i nofio ganddynt. Hefyd, yn hytrach na chymryd llwybr uniongyrchol rydym yn gobeithio teithio, neu rith-deithio mewn gwirionedd, i rai lleoliadau cyffrous iawn a mynd ymhellach mewn cyfnod byrrach.

“Nododd nifer o staff a gymerodd ran ynn nghynllun Cerdded o Amgylch y Byd yn 2011 eu bod wedi gweld nifer o fanteision iechyd ac wedi mwynhau’r her. Gall cymryd camau bach i wella ffitrwydd wrth weithio gael manteision mawr; mae llawer o bobl yn anymwybodol o’r ffaith fod anafiadau sy’n deillio o ddefnyddio offer sgrin arddangos trwy weithio oriau hir o flaen cyfrifiadur yn un o brif achosion afiechyd galwedigaethol heddiw.”

Mae staff sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn cael pedometr am ddim a byddant yn gallu cofnodi nifer eu camau, a’r pellter y byddant yn nofio a seiclo, ar wefan sy’n cofnodi eu cynnydd personol a’i gymharu â thaith o amgylch arfordir y Deyrnas Unedig. Bydd cyfraniad personol staff hefyd yn cyfrif tuag at gyfanswm adrannol a bydd adrannau’r Brifysgol yn cystadlu’n erbyn ei gilydd i fod ar y brig.

Wrth gefnogi’r cynllun, dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro April McMahon: “Mae iechyd staff y Brifysgol yn hanfodol bwysig. Mae’r cynllun Cerdded o Amgylch y Byd yn annog pobl yn weithredol i gymryd egwyl fer yn rheolaidd o swyddi wrth ddesg. Fe wyddom fod gwneud mân newidiadau, fel dringo’r grisiau yn hytrach na chymryd lifft, ac ymarfer corff yn rheolaidd yn cael effeithiau sylweddol ar iechyd corff a meddwl. Rwy’n edrych ymlaen i ddilyn ein cynnydd ac i gyfrannu i’n taith tuag at iechyd gwell.”

Bydd staff y Brifysgol yn derbyn negeseuon yn rheolaidd ynglŷn â chynnydd pawb wrth iddynt ymweld â lleoliadau diddorol ledled y byd. Anogir unrhyw un o staff y Brifysgol sy’n dymuno cymryd rhan yn yr her eleni i gysylltu â Helen Williams, yn y tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.

AU1312