Agor meithrinfa newydd

13 Ebrill 2012

Agorwyd drysau meithrinfa newydd bwrpasol ar gampws Penglais y Brifysgol am y tro cyntaf ar ddydd Iau 12 Ebrill.

Mae Meithrinfa Penglais, a oedd yn wreiddiol yn Glenview ar Heol Brynymor, yn darparu gofal plant ar gyfer staff Prifysgol Aberystwyth a myfyrwyr yn ogystal â'r gymuned leol.

Mae’r adnodd modern newydd, sydd yn cyflogi 22 o staff, bellach yn medru cynnig lle i 73 o blant hyd at 8 mlwydd oed.

Dywedodd Rheolwr y Feithrinfa Eleri Morris, "Rydym yn falch iawn o fod yma ac yn edrych ymlaen at ymgartrefu yn yr adeilad newydd hyfryd hwn. Gan fod gennym ni fwy o ystafelloedd a gofod, sydd yn cynnwys ardal chwarae tu allan, rydym yn medru darparu lle ar gyfer llawer mwy o blant, cam pwysig ymlaen i ni.” 

Yn ogystal, mae'r uned fabanod yn Neuadd Rosser ar Gampws Penglais yn uno â Meithrinfa Penglais, sydd ar agor rhwng 8 y bore a 6 yr hwyr yn ystod yr wythnos. Yn y gorffennol derbyniodd y Feithrinfa adroddiadau canmoliaethus gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Gofal am ansawdd y staff a'r amgylchedd ddysgu y mae'n ei darparu.

Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff y Brifysgol, Rebecca Davies, "Mae’r feithrinfa newydd hon yn adnodd gwych ar gyfer rhieni sy’n gweithio a’u plant, ac i’w chroesawi’n fawr iawn. Rydym yn falch iawn ein bod yn medru cynnig awyrgylch hyfryd a diogel sydd yn cymell plant i ddysgu drwy chwarae.

Mae’r gwasanaeth hwn, sydd o safon uchel, ar agor i’r gymuned yn ogystal â staff a myfyrwyr, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawi rhieni a phlant i’r safle.”

Mae Meithrinfa Penglais wedi ei chofrestru gyda Mudiad Meithrin a Chymdeithas Chwarae Cynradd Cymru, ac mae’n cynnig 9 lle i blant dan 12 mis oed, 15 o leoedd ar gyfer plant rhwng 12 a 24 mis, 20 o leoedd ar gyfer plant 2 flwydd oed, 14 o leoedd ar gyfer plant 3 oed, a 15 o leoedd i blant rhwng 3 ac 8 oed fel rhan o gynllun chwarae gwyliau.

Mae lleoedd ar gael yn y feithrinfa ar hyn o bryd. Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy ffonio’r Feithrinfa ar 01970 622233 neu drwy e-bost elm@aber.ac.uk.

AU10412