Profiad Shanghai

Dr Wu Jianzhong, Cyfarwyddwr Llyfrgell Shanghai

Dr Wu Jianzhong, Cyfarwyddwr Llyfrgell Shanghai

19 Medi 2012

Bydd Dr Wu Jianzhong, Cyfarwyddwr Llyfrgell Shanghai sydd ymysg y deg llyfrgell mwyaf yn y byd, yn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth ddydd Llun 24ain o Fedi i siarad am lyfrgell Shanghai fel 'ffynhonnell o greadigrwydd'.

Enillodd Dr Wu PhD mewn gwyddonaieth llyfrgell ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1992 a bu hefyd yn gatalogydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyn gweithio ei ffordd i fyny y rhengoedd yn Llyfrgell Shanghai.

Bydd y cyn-fyfyrwyr yn traddodi darlith cyntaf y tymor newydd fel rhan o'i ymweliad byr â'r DU.

Cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Llyfrgell Shanghai yn 2002, ac hefyd yn Gyfarwyddwr Sefydliad Gwybodaeth Gwyddonol a Thechnegol Shanghai yr un flwyddyn.

Gwnaethpwyd Dr Wu yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2011 a bydd yn cael ei gyflwyno gyda’r gymrodoriaeth ar ddiwedd y ddarlith.

Mae'r ddarlith yn agored i'r cyhoedd a chaiff ei gyflwyno yn Sinema Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth am 5pm ddydd Llun 24 Medi.

Llyfrgell Shanghai
Mae Llyfrgell Shanghai yn un o’r deg llyfrgell fwyaf yn y byd o ran maint ac o ran y casgliad o’i mewn. Ynddi cedwir 50.95 miliwn o eitemau, o’r adroddiadau technegol diweddaraf, ffeiliau hawlfraint a safonol, i arteffactau hynafol; o gopïau papur, sain a recordiadau fideo, i fasau data digidol.

Mae’r dogfennau hanesyddol yn rhai o drysorau arbennig y llyfrgell, ac yn eu plith y mae 100,000 o lawysgrifau a llythyrau, oddeutu 5400 o gofnodion lleol cyn 1949, 18,000 teitl o ffeiliau achyddol (342 enw teuluol), dros 8,000 copi o bapurau prawf imperialaidd, 150,000 darn o epigraffau a rhwbiadau, ac 1.7 miliwn llyfr hynafol (mae 25,000 teitl, wedi’u gwneuthur o 170,000 cyfrol, yn rifynnau prin).

Yn y llyfrgell ceir mwyn na 300 teitl o gyfrolau wedi’u argraffu â blociau cyn Brenhinlin Song, 224 o’r sutra hynafol wedi’u hysgrifennu â llaw cyn y Brenhinlin Tang a chyfnod y Pum Brenhinlin. Mae’r eitem cynharaf yn dyddio yn ôl i 518OC (“Y Vimalakirti Nirdesa Sutra”).

Yno, mae mwy na 50,000 o lythyron, dyddiaduron, arysgrifau, lluniau, a dogfennau prin o alaeth o enwogion Tsieina ers y Brenhinlin Qing hwyr, yn eu plith mae Ba Jin, Xiao Qian, a Fu Lei. Cedwir y rhain yn y “Llyfrgell Llawysgrifau Enwogion Diwylliannol Tsieina”, ac mae llawer ohonynt wedi’u digideiddio.   

AU31712