Ser gwyddonol

Yr Athro John Harries, Prif Ymgynghorydd Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, Yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS, Gweinidog Llywodraeth Cymru Edwina Hart a'r Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Yr Athro John Harries, Prif Ymgynghorydd Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, Yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS, Gweinidog Llywodraeth Cymru Edwina Hart a'r Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

27 Medi 2012

Heddiw, ddydd Iau 27 Medi bu Edwina Hart, Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn Llywodraeth Cymru, yn Aberystwyth i lansio cronfa newydd o £50 miliwn i ddenu rhai o ffigurau mwyaf y byd gwyddoniaeth i Gymru.

Nôd yr ymgyrch yw hybu rhagoriaeth ymchwil drwy ddenu ymchwilwyr gwyddoniaeth o safon fyd-eang a’u timau i Gymru am bum mlynedd o leiaf a chynyddu cyfran Cymru o gyllid Cyngor Ymchwil y DU o 3% i 5%.

Bydd ymgyrch Sêr Cymru yn cefnogi sefydlu rhwydwaith ymchwil cenedlaethol cydweithredol ym mhob un o’r meysydd canlynol; uwch beirianneg a deunyddiau, gwyddorau bywyd ac iechyd, Carbon isel, ynni a’r amgylchedd.

Dyma dri maes yr ‘Her Fawr’ a amlygwyd yn strategaeth ‘Gwyddoniaeth i Gymru’ y Llywodraeth, a lansiwyd yn gynharach eleni.

Bydd cyfarwyddwr yn cael ei benodi i bob rhwydwaith ac mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y caiff y sêr eu penodi’n Gadeiryddion Ymchwil a bydd eu rhagoriaeth ymchwil o fewn y tri maes a nodir uchod.

Caiff cyllid Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio dros y pum mlynedd i ddarparu offer arbenigol, cynnig cyflog y byddai ‘seren’ academaidd yn ei haeddu ac ariannu aelodau priodol o’u tîm.

Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar brifysgolion ledled Cymru i fanteisio ar y cyfle hwn i fod yn fwy uchelgeisiol a chydweithredol wrth wneud ceisiadau am gyllid er mwyn ennill mwy o ymchwil a ddyfernir drwy broses gystadleuol.

Wrth lansio’r cynllun, dywedodd Edwina Hart: “Mae gwyddoniaeth ac arloesi’n gonglfeini i economi ffyniannus. Mae hybu’n hadnoddau ymchwil gwyddoniaeth yn allweddol o ran gwella’n lles economaidd a sicrhau dyfodol mwy ffyniannus, iach a chynaliadwy i Gymru.

“Mae IBERS yn enghraifft ragorol o’r hyn y gall prifysgolion Cymru ei gyflawni. Gyda’i hymchwil ac arloesi llwyddiannus o safon fyd-eang mae IBERS wedi ennill enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae gennym lawer i fod yn falch ohono ond mae angen i ni adeiladu ar ein sylfaen wyddonol a datblygu rhwydwaith deinamig a chryf sy’n cefnogi datblygiad economaidd a chenedlaethol Cymru.”

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn croesawu’n fawr y gefnogaeth newydd a’r hyrwyddiad o wyddoniaeth ac ymchwil yng Nghymru trwy raglen Sêr Cymru. Yn Aberystwyth mae yna gyfoeth o ymchwil mewn bodolaeth sy’n cael argraff ledled y byd ac mae denu  mwy o gyd-weithwyr o safon fyd-eang a’u hymchwil i brifysgolion Cymru yn mynd i wella a datblygu’n bellach ein hadrannau ymchwil a gwyddoniaeth.  

“Rydym yn blês iawn yn enwedig gan fod lansiad Sêr Cymru yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y rhaglen.”

Yr amcan fydd denu o leiaf un ‘seren’ ymchwil gyda thîm cysylltiedig erbyn y flwyddyn nesaf, gyda’r penodiadau eraill yn digwydd dros gyfnod o flwyddyn i ddwy flynedd.

I gael gwybod mwy am Strategaeth Wyddoniaeth Cymru ewch i: www.wales.gov.uk/sercymru

AU32812