Adroddiad llifogydd

Y llifogydd ym Mlaendolau ar ddydd Sadwrn 9 Mehefin 2012.

Y llifogydd ym Mlaendolau ar ddydd Sadwrn 9 Mehefin 2012.

22 Hydref 2012

Mae adroddiad gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth i’r hyn a achosodd ac oblygiadau llifogydd Mehefin 2012 yn Aberystwyth a phentrefi cyfagos wedi dod i’r casgliad fod digwyddiadau o’r maint a’r math yma yn nodweddiadol o afonydd sydd yn llifo o Fynyddoedd y Cambria yng ngorllewin Cymru a’u bod yn debygol o ddigwydd eto yn y dyfodol.  

Mae’r Athro Mark Macklin, Dr Paul Brewer, Dr Simon Foulds, Rachel Betson a Dr Sara Rassner o Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol, yn esbonio fod llifogydd eithafol yn debygol o gael eu hailadrodd ac, o bosibl, yn amlach mewn hinsawdd sydd yn cynhesu.

Er hyn, mae’r adroddiad yn nodi, er bod cyfansymiau’r glaw a ddisgynnodd ym Mynyddoedd y Cambria yn uchel, doeddent ddim yn eithafol a ddim yn agos at recordiau a osodwyd yn y Deyrnas Gyfunol.  

Ymddengys fod y glaw a ddisgynnodd yn debyg iawn i’r hyn welwyd ar adegau llifogydd difrifol yn ardal Aberystwyth yn Awst 1973 a Rhagfyr 1964. Gwelwyd llifogydd difrifol yn yr ardal hefyd ym Mehefin 1935, Mehefin 1919 a Hydref 1896.

Dadl yr awduron yw fod llifogydd 2012 yn waeth o’i gymharu â 1973 a 1964 oherwydd datblygu eiddo ar orlifdir.

Esbonia’r Athro Macklin: “Ers 1906, gwelwyd cynnydd dramatig yn yr eiddo sydd wedi ei adeiladu ar orlifdir y Rheidol. Mae’r rhan fwyaf o’r datblygu wedi digwydd yn ystod y 30-40 mlynedd diwethaf yn sgil adeiladu Stad Ddiwydiannol Glanyrafon, Parc Manwerthu Parc-y-llyn, ac yn fwy diweddar swyddfeydd y cyngor a’r llywodraeth.

“Mae datblygiad meysydd gwersylla a charafanio ar y gorlifdiroedd yma yn destun consyrn arbennig ac yn golygu fod llawer o breswylwyr yno yn debygol iawn o ddioddef llifogydd. Er na fu farw unrhyw un, gwelwyd llawer o feysydd parcio o dan ddŵr ac mae tîr o’r math hwn yn debygol iawn o gael ei ddifrodi gan lifogydd.”

Yn ogystal, darganfu'r ymchwilwyr fod llifogydd 2012 wedi symud llawer iawn o wastraff llygredig o hen weithfeydd mwyn a phriddoedd gorlifdir. Canfuwyd fod y rhan fwyaf o samplau o waddodion y llifogydd yn cynnwys lefelau uwch na’r hyn sydd yn cael ei ganiatáu mewn ardaloedd preswyl a diwydiannol yn y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop.

Ychwanegodd yr Athro Macklin: “Mae llygredd gorlifdiroedd yng ngorllewin Cymru yn broblem ddwys a hir dymor, ac un y mae’n ei rhannu gyda dalgylchoedd afonydd eraill yn y DG sydd â hanes o fwyngloddio metelau.”

Cyhoeddir yr adroddiad “Causes and consequences of a large summer storm and flood in west Wales 8th-9th June 2012” ar ddydd Mawrth 23 Hydref. Mae copi llawn o’r adroddiad ar gael yma http://www.aber.ac.uk/fluvio-west-wales-floods-2012.

Bydd canfyddiadau’r adroddiad yn cael eu trafod ar raglen Week In Week Out ar BBC1 Wales nos Fawrth 23 Hydref am 22.35. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar lifogydd mis Mehefin yng Ngheredigion a chynnwys yr adroddiad.

Cwblhaodd yr ymchwilwyr yr adroddiad fel rhan o Ganolfan Ymchwil Aberoedd ac Arfordiroedd Prifysgolion Aberystwyth a Bangor, a Grŵp Ymchwil Hydroleg a Deinameg Gwely’r Afon Prifysgol Aberystwyth.

AU34512