Noson gomedi ar y Thames

Y Thames

Y Thames

02 Tachwedd 2012

Fe wnaeth un o ddigwyddiadau gorau myfyrwyr Aberystwyth symud i Lundain neithiwr ar gyfer digwyddiad arbennig a drefnwyd gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni.

Cynhaliwyd y noson gomedi ar y Castell Tattershall, hen stemar olwyn wedi’i hangori ar lannau'r Tafwys. Fe wnaeth y dorf o gyn-fyfyrwyr Aberystwyth fwynhau’r noson a fynychwyd gan rai o sêr comedi'r DG.

Dywedodd Steve Pickup, Swyddog Digwyddiadau Prifysgol Aberystwyth “Roedd yn noson arbennig iawn ac mewn lleoliad gwych. Hoffwn ddiolch i Alumni Aberystwyth am eu cefnogaeth wych ac am wneud y noson yn gymaint o lwyddiant, yn enwedig gan mai dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath rydym wedi ei drefnu. Rydym yn edrych i gynnal digwyddiad arall yn y dyfodol agos.”

AU37512