Diweddariad Tywydd

Eira yn Aberystwyth

Eira yn Aberystwyth

17 Ionawr 2013

Diweddariad Tywydd 1

Cyhoeddwyd am 4 o'r gloch brynhawn dydd Iau 17 Ionawr, 2013

Rydym yn rhagweld y bydd y Brifysgol ar agor yfory, dydd Gwener 18fed Ionawr. Er hyn mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd ambr 'byddwch yn barod' am eira yn ardal Aberystwyth yn ystod oriau mân fore fory.

Bydd y Brifysgol yn parhau i fonitro'r rhagolygon ac yn rhyddhau diweddariadau ac arweiniad i staff a myfyrwyr yn ôl yr angen. Bydd diweddariadau parthed tywydd difrifol/anffafriol yn cael eu hanfon drwy e-bost ac yn ymddangos ar wefan y Brifysgol yn http://www.aber.ac.uk/cy/important-info/ yn ogystal â thrwy sianelau cyfryngau cymdeithasol. Cynghorir myfyrwyr a staff i fonitro'r sianelau cyfathrebu yma am gyhoeddiadau perthnasol.