Cyhoeddi’r cynigydd ffafredig ar gyfer llety newydd

Campws Penglais

Campws Penglais

04 Chwefror 2013

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o gyhoeddi mai Balfour Beatty sydd wedi ei ddewis fel y cynigydd ffafredig ar gyfer datblygu llety newydd i fyfyrwyr.

Mae’r cynllun gwerth oddeutu £45 miliwn, ar Fferm Penglais, ar dir yn union y tu ôl i bentref myfyrwyr arobryn Pentre Jane Morgan ac o fewn pellter cerdded i gampws Penglais y Brifysgol.

Bydd y datblygiad newydd yn darparu llety en-suite i 1000 o fyfyrwyr ac yn cynnwys 100 o fflatiau stiwdio. Bydd y llety yn cynnwys ardaloedd dysgu a chymunedol, sy’n gydnaws ag ethos flaengar Aberystwyth, a disgwylir i’r myfyrwyr cyntaf symud fewn ym mis Medi 2014.

Dywedodd James Wallace, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Campws ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Rydym yn falch o'r cynnydd a wnaed gyda'r broses ddeialog gystadleuol. Rydym yn disgwyl i'r neuaddau preswyl newydd gael eu trosglwyddo i ni yn 2014 a chael myfyrwyr yn byw yn y llety newydd gwych a phwrpasol hyn, a fydd yn gam pwysig tuag at gyflawni nodau strategol y Brifysgol".