Lansio Cynllun Strategol newydd pum mlynedd

Ymunodd myfyrwyr a staff â’r Is-Ganghellor er mwyn lansio’r Cynllun Strategol.

Ymunodd myfyrwyr a staff â’r Is-Ganghellor er mwyn lansio’r Cynllun Strategol.

11 Chwefror 2013

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio Cynllun Strategol sydd yn gosod ei gweledigaeth am y lle mae’n dymuno bod ymhen pum mlynedd.

Yn ystod y 12 mis aeth heibio bu’n ymgynghori’n helaeth gyda myfyrwyr, staff, y corff llywodraethol a rhanddeiliaid, a chynhaliwyd cyfres o sesiynau agored “Llunio ein Dyfodol”.

Arweiniodd hyn at ddatblygu dogfen sydd yn gosod yn glir ble mae’r Brifysgol yn dymuno bod erbyn 2017.

Gosododd y Brifysgol chwe her iddi’i hun dros y pum mlynedd nesaf a fydd yn gymorth iddi gyflawni ei nod o ddod yn sefydliad rhyngddisgyblaethol blaenllaw sydd yn dylanwadu yng Nghymru, yn y Deyrnas Gyfunol ac yn fyd-eang. Y chwe her yw:

  • Creu cyfleoedd
    Chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag manteisio ar addysg uwch, cynorthwyo myfyrwyr a staff i lwyddo a datblygu, ymgorffori cyflogadwyedd ar draws cwricwlwm Aberystwyth, a hybu profiadau sy’n golygu bod myfyrwyr yn gallu profi a datblygu eu sgiliau, gwerthfawrogi pobl a gwireddu eu potensial llawn, ac adlewyrchu cyfrifoldeb cymdeithasol ym mhopeth y mae’r Brifysgol yn ei wneud.
  • Ymchwil rhagorol sy’n creu effaith
    Datblygu ymhellach lwyddiannau ymchwil Aberystwyth er mwyn gwneud gwahaniaeth drwy ymdrin â heriau byd-eang a darparu modd o ddeall y dyfodol drwy’r gorffennol.
  • Dysgu sy’n Ysbrydoli
    Gwella ymhellach ar y profiad o safon byd y mae myfyrwyr Aberystwyth yn ei gael drwy fuddsoddi mewn isadeiledd o safon a phortffolio rhagorol sy’n pwysleisio cyflogadwyedd a sgiliau hyd oes, gan roi i’r myfyrwyr y sgiliau a’r wybodaeth i lwyddo yn y dyfodol.
  • Meithrin cysylltiadau â’r byd
    Adeiladu ar enw da rhyngwladol y Brifysgol, denu myfyrwyr a staff o bedwar ban byd, a chydweithio â phartneriaid a gydnabyddir yn rhyngwladol.
  • Gweithio mewn partneriaeth
    Cydweithio â phrifysgolion eraill, â’r gymuned leol ac Addysg Bellach, â chyflogwyr a busnesau, a chyn-fyfyrwyr y Brifysgol, yn meithrin partneriaethau byd-eang, yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr, ein staff a’n partneriaid.
  • Buddsoddi yn nyfodol y Brifysgol
    Datblygu adnoddau a buddsoddi yn amgylchedd y Brifysgol i wireddu eu blaenoriaethau strategol, gan sicrhau cynaliadwyedd a thwf Aberystwyth yn y dyfodol.

Prif nod y Brifysgol yw sicrhau bod Aberystwyth erbyn 2017 ymhlith y 30 uchaf o holl brifysgolion gwledydd Prydain, a’r 250 uchaf yn y byd.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
"Mae'n bleser ac yn fraint cyflwyno Cynllun Strategol newydd y Brifysgol. Hoffwn fynegi fy niolch diffuant i bawb sydd wedi cyfrannu at ei ddatblygiad. "

“Ers i mi gyrraedd Aberystwyth, rwyf wedi dysgu mwy am yr hyn sy’n ei gwneud yn brifysgol mor arbennig, a’r hyn sy’n creu cymaint o gyfle a rhoi cymaint o addewid eithriadol ar gyfer ein dyfodol. Mae hynny’n golygu datblygu’r Brifysgol a’r cyfraniad a wnawn i fywyd Cymru, ond hefyd yn hanfodol, law yn llaw â hynny, datblygu ein pobl a’n cymunedau, yn ogystal â’n cyfraniad tuag at wybodaeth, arbenigedd a thwf economaidd.”

“Mae ein dyheadau i’r pum mlynedd nesaf wedi’u seilio ar werthoedd y mae’n myfyrwyr a’n staff wedi’u rhoi i ni. Gwyddom fod y gwerthoedd hyn yn sylfaenol bwysig i bawb a fydd yn gweithio i wireddu gweledigaeth Aberystwyth 2017. Mae Aberystwyth 2017 yn bosib oherwydd y bobl sy’n ymgorffori cryfderau a gwerthoedd Aberystwyth 2012.”

Mae copïau o'r Cynllun Strategol 2012-2017 ar gael ar y wefan http://www.aber.ac.uk/cy/strategicplan/

AU5513