Dadlau ar y llwyfan rhyngwladol

Chwith i’r Dde: Y dadleuwyr Roberto Sarrionandia ac Ollie Newman

Chwith i’r Dde: Y dadleuwyr Roberto Sarrionandia ac Ollie Newman

19 Chwefror 2013

Cafodd aelodau o Gymdeithas Ddadlau Prifysgol Aberystwyth gryn lwyddiant ym Mhencampwriaethau Dadlau Prifysgolion y Byd a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Universität Technische Berlin.

Yno bu Roberto Sarrionandia (3edd flwyddyn Cyfrifiadureg) ac Ollie Newlan (2il flwyddyn Gwleidyddiaeth Ryngwladol) yn dadlau yn erbyn timau o rai o sefydliadau mwyaf adnabyddus y byd academaidd gan drechu'r LSE a Harvard a’u tebyg wrth iddynt gyrraedd yr 16eg olaf.

Y trydydd aelod o Gymdeithas Ddadlau Aberystwyth i fynychu’r gystadleuaeth oedd Samuel Vincent (Hanes 3edd flwyddyn), a fu’n un o feirniad y gystadleuaeth.

Wedi naw diwrnod o drafod a dadlau dwys, roedd y ddeuawd o Aberystwyth yn yr 11eg safle, ac  wedi llwyddo i fynd ymhellach yn y gystadleuaeth nac enwau mawr megis Yale, Princeton, Caergrawnt B, Durham, Coleg Prifysgol Cork, Stanford, Bryste, a Phrifysgol McGill.

Ac, o'r 387 o dimau a ddechreuodd y gystadleuaeth ar y 27ain o Ragfyr,  Prifysgol Monash o Awstralia oedd yn fuddugol.

Wedi iddo ddychwelyd i Aberystwyth, dywedodd Roberto, a fynychodd Ysgol Greenhill yn Ninbych y Pysgod: "Roedd hwn yn brofiad anhygoel. Mae gan lawer o'r timau flynyddoedd o brofiad ac yn cymryd pethau o ddifrif. Wnes i ddim dechrau dadlau tan i mi gyrraedd Aberystwyth a chael fy ngwahodd i ymuno â’r Gymdeithas Ddadlau yn ystod Ffair y Glas. Wedi dechrau ansicr rwy’n ymarfer ac yn cystadlu’n gyson a mwynhau’r cyffro yn fawr iawn. "

Daw Ollie o Dde Orllewin Llundain lle mynychodd Ysgol Heathland. Cafodd ei gyflwyno i ddadlau fel rhan o gynllun Debate Mate, lle mae dadleuwyr profiadol yn dysgu eu sgiliau i blant mewn ysgolion dinesig.

"Ar y dechrau roeddwn yn nerfus iawn" dywedodd Ollie, "ac yna fe sylweddolom ein bod yn gwneud yn eithaf da. Roeddem yn gwybod nad oeddem yn debygol o ennill, ond dechreuodd tipyn o bobl ein dilyn gan nad oeddem yn un o’r ffefrynnau.  Roedd yn awyrgylch yn gystadleuol tu hwnt ac roedd gan y timau Americanaidd hyfforddwyr proffesiynol ac wedi paratoi yn fanwl iawn.  Roedd gan Monash hefyd eu hyfforddwr dadlau eu hunain ac maent hefyd yn cyhoeddi cyfnodolyn ar y pwnc sy’n cael ei  adolygu gan gymheiriaid. "

Mae pedwar tîm yn cymryd rhan ym mhob dadl, dau o blaid a dau yn erbyn y cynnig, gyda dau dîm symud ymlaen i'r rownd nesaf. Bu Roberto ac Ollie yn trafod yr Aifft ac a ddylai cymorth datblygu fod yn amodol ar welliannau democrataidd, ac a ddylid gwahardd marchnata a hysbysebion.

Wedi 15 munud i baratoi, mae pob siaradwr yn cael cais i siarad am 7 munud, â’r perfformiadau’n cael ei sgorio gan banel o feirniaid.

Yn yr ‘octofinal’ (16 olaf) gwynebodd Aberystwyth dimoedd yr LSE, Harvard ac Auckland, cyn mynd ymlaen i ddadlau yn erbyn Coleg Prifysgol Dulyn, Rhydychen, ac Auckland yn y rownd gogynderfynol.

Yn dilyn eu llwyddiant ym Merlin, mae Roberto ac Ollie yn awr yn edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yn Rownd Derfynnol Mace Rhyngwladol John Smith sydd yn cael ei chynnal yng Nghaeredin ganol mis Ebrill.

Ac ar ôl hynny, maent yn edrych ymlaen at groesawu timau o bob cwr o'r Deyrnas Gyfunol i Aberystwyth ar benwythnos olaf mis Ebrill ar gyfer Cystadleuaeth Agored Bailey Gifford Aberystwyth. Yr Hen Goleg fydd y lleoliad ar gyfer y dadleuon yn ystod y dydd, a chynhelir y rownd derfynol gyda’r hwyr mewn bwyty ar ben Craig Glais.

Ceir mwy o wybodaeth am y Gymdeithas Ddadlau a Chystadleuaeth Agored Aberystwyth ar wefan y gymdeithas http://aberdebating.org/.

AU3413