Ymgais record Bioblitz

Bioblitz campws Penglais

Bioblitz campws Penglais

05 Mawrth 2013

Mae arbenigwyr bywyd gwyllt a gwirfoddolwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn galw am gymorth myfyrwyr, staff ac aelodau o’r cyhoedd i gofnodi cynifer o wahanol fathau o blanhigion ac anifeiliaid ag sy’n bosib.

Mae’r Brifysgol yn cynnal Bioblitz ar gampws Penglais ar ddydd Sadwrn 11 Mai 2013 a’r nod yw torri'r record am y nifer mwyaf o rywogaethau a geir ar gampws prifysgol mewn un diwrnod.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn mwynhau un o'r lleoliadau prydferthaf o unrhyw brifysgol yn y wlad, yng nghysgod mynyddoedd y Cambria ac ar lannau Bae Ceredigion.

Hi hefyd yw’r unig Brifysgol yn y Deyrnas Gyfunol sydd â champws mewn ardal gwarchodfa biosffer UNESCO.

Mae sawl Bioblitz wedi’u cynnal mewn nifer o leoliadau ar draws y byd, ac maent yn ymgais i ddarganfod yn union faint o fioamrywiaeth sydd yn bodoli mewn ardal benodol.

Mae Bioblitz Penglais ychydig yn fwy uchelgeisiol gan ei bod yn anelu i restru'r holl rywogaethau sy'n rhannu’r campws â’r myfyrwyr a’r staff.

Dywedodd trefnydd y Bioblitz, Dr John Warren, Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS): " Weithiau rydyn ni’n rhy brysur i sylwi ar y lle gwych yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddo. Mae llawer ohonom yn cael ein denu i Aberystwyth am fod y lleoliad ymhlith y prydferthaf o unrhyw brifysgol; wedi’i amgylchynu gan gefn gwlad anhygoel sy’n gynefin i lawer o rywogaethau prin ac anarferol. Mae’r Bioblitz yn gyfle i ddangos hyn i'r byd drwy brofi faint o fioamrywiaeth sydd i'w weld ar gampws Penglais."

Cynhelir y Bioblitz dros 24 awr o ganol nos ar y 10fed o Fai tan ganol nos ar yr 11eg ac mae croeso i bawb gymryd rhan.

Bydd angen gwirfoddolwyr i drapio gwyfynod yn y tywyllwch, adnabod ystlumod wrth iddi nosi, gwrando ar gôr bore bach yr adar wrth iddi wawrio neu archwilio pyllau dŵr a chasglu planhigion ar adegau mwy gwaraidd o’r dydd.

Bydd arbenigwyr wrth law i nodi ac adnabod pob rhywogaeth o bryfed, adar, blodau a physgod, felly does dim angen unrhyw sgiliau arbenigol - gall unrhyw un wneud y gwaith astudio a chasglu.  A does dim rhaid i wirfoddolwyr weithio am 24 awr, gallant ymuno yn y gwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu bryd bynnag y maent yn dymuno gwneud.

Ychwanegodd Dr Warren: “Ein bwriad yw hawlio’r record drwy restru nid yn unig y barcutiaid coch mawreddog sy’n amgylchynu uwchben, ond pob planhigyn pot ym mhob swyddfa, y microbau yn y pridd, y parasitiaid yn ffwr llygod y gwair, a hyd yn oed y gwahanol rywogaethau o letys yn y salad yng nghaffi Canolfan Y Celfyddydau.”

Mae'r tîm sy’n trefnu’r Bioblitz yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gydag amrywiaeth eang o weithgareddau ar y diwrnod. Mae hyn yn amrywio o helpu i gasglu a choladu data i dynnu lluniau neu gofnodi canlyniadau.

Ceir mwy o wybodaeth am Bioblitz Aberystwyth ar y wefan http://www.aber.ac.uk/cy/ibers/events/2013/bioblitz/. Mi fydd mwy o wybodaeth am sut i gyfrannu yn cael ei ryddhau yn ystod yr wythnosau nesaf.

Bydd rhaglen lawn o’r gweithgareddau yn cael ei chyhoeddi ar y wefan ac mae modd i’r rhai sy’n dymuno cofrestru wneud hynny nawr drwy e-bostio bioblitz@aber.ac.uk.


AU1413