Arglwydd Owen ar argyfwng yr Ewro

Yr Arglwydd David Owen

Yr Arglwydd David Owen

11 Ebrill 2013

Bydd y Cyn-Ysgrifennydd Tramor ac yn un o aelodau gwreiddiol Plaid  y Democratiaid Cymdeithasol, yr Arglwydd David Owen yn traddodi darlith gyhoeddus ar Ddiwygio'r Ewro a pholisi UE Prydain yr wythnos nesaf.

Bydd yr Arglwydd Owen yn dadlau bod argyfwng Ewrop nid yn unig yn ymwneud â gwendidau technegol wrth fabwysiadu arian sengl. Y mae’n ymwneud yn fwy sylfaenol ag anghydnawsedd y gwahanol fodelau y mae llywodraethau’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn eu dilyn wrth honni eu bod yn ymgysylltu mewn ymdrech gyffredin.

Mae'n credu y dylai gwledydd sy’n gweld eu dyfodol yn rhan o undeb sy’n closio fwyfwy fod yn rhydd i fynd ar drywydd y nod hwnnw. Ond y dylid parchu sofraniaeth y rhai sy’n ffafrio undeb o wladwriaethau yn eu llywodraethu’u hunain ac yn rhan o farchnad sengl wedi’i hailstrwythuro.

Bydd yr Arglwydd Owen, a gymhwysodd fel meddyg yn 1962, cyn mynd i  fyd gwleidyddiaeth, yn ateb cwestiynau wrth y gynulleidfa fel rhan o'r digwyddiad pan ddaw i Aberystwyth ar 15 Ebrill.

Dywedodd Dr Kristan Stoddart, Darlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol Diogelwch Seibr yn y Brifysgol:

"Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn hapus ac yn falch o groesawu’r Arglwydd David Owen i siarad yn y Brifysgol. Mae ei ddarlith amserol yn dod ar adeg dyngedfennol o ran cysylltiadau Prydain gyda'r UE ar gefn Argyfwng Rhanbarth yr Ewro o ganlyniad i  gwymp economaidd 2008. Mae'r canlyniadau hir-dymor y digwyddiad wedi cael ôl-effeithiau ledled yr UE a gweddill y byd, a dyma gyfle i glywed gan un o brif wneuthurwyr polisi y ddeg mlynedd ar hugain diwethaf.

"Mae tensiynau rhwng llywodraethau cenedlaethol a'r UE yn sgil yr argyfwng economaidd wedi bod yn rhan o ddadleuon ynglŷn â dyfodol yr UE a lle Phrydain tu mewn i’r strwythur. Mae ei sgwrs, yn dilyn marwolaeth ddiweddar y cyn Brif Weinidog Margaret Thatcher, a chwaraeodd ran arwyddocaol yn y trawsnewid o Gymuned Economaidd Ewropeaidd i’r hyn a ddatblygwyd yn Undeb Ewropeaidd, yn amserol ac yn gyfle gwych i glywed gan ac ymgysylltu â siaradwr cyhoeddus dihafal a diamwys. Mae'n addo bod yn un o'r digwyddiadau diffiniol yng nghalendr academaidd 2012/2013. "

Eurozone Reform and the British EU policygan yr Arglwydd Owen, Prif Neuadd, Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, 6pm ymlaen.

Mae’r ddarlith, a gynhelir gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhan o ystod eang o ddarlithoedd cyhoeddus diddorol ac ysgogol a gynhelir drwy gydol y flwyddyn i beri dadleuon sy’n procio'r meddwl ac yn trafod ystod o faterion cyfoes.

Roedd David Owen yn Aelod Seneddol dros Plymouth am 26 mlynedd 1966-92. O dan Lywodraethau Llafur, bu'n gwasanaethu fel Gweinidog y Llynges, Gweinidog Iechyd ac yn Ysgrifennydd Tramor. Roedd yn gyd-sylfaenydd Plaid y Democrataidd Cymdeithasol ac yni Arweinydd arnynt rhwng 1983-87 a 1988-90. Fe’i urddwyd yn Farwn – yr Arglwydd Owen o Ddinas Plymouth - yn 1992 ac  mae’n eistedd fel aelod trawsbleidiol annibynnol yn Nhŷ'r Arglwyddi. Roedd yn drafodwr heddwch yr UE yn yr hen Iwgoslafia rhwng 1992-95. Roedd yn Gadeirydd Ewrop Newydd a sefydlwyd ym 1999 ac oedd yn bodoli tan 2005 ac yn ymgyrchu yn erbyn aelodaeth Prydain o'r ewro.

AU13113