Iechyd gwledig a lles cymunedol

03 Ebrill 2013

Penodi’r Offthalmolegydd Ymgynghorol Manoj Kulshrestha yn Ddarllenydd cyntaf Cymru mewn Iechyd Gwledig a Lles Cymunedol.

Dysgu ac addysgu sy’n ysbrydoli

05 Ebrill 2013

Bydd staff sy'n disgleirio am eu gallu i ysbrydoli, herio ac ymgysylltu gyda myfyrwyr yn cael eu cydnabod gan y myfyrwyr yng Ngwobrau Addysgu dan Arweiniad Myfyrwyr.

Gwneud, twtio a thrwsio

09 Ebrill 2013

Gwobr dysgu gydol oes i gyrsiau gwnïo a gynlluniwyd i ailgylchu ac uwch-gylchu hen ddillad, a chymell sefydlu busnesau bachain newydd.

Cynghori gweinidog

10 Ebrill 2013

Pendoi’r arbenigwraig trosgwlyddo technoleg, Dr Rhian Hayward, i Fwrdd Ymgynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.

Penllanw o gyfrinachau

10 Ebrill 2013

Darlithydd o IBERS yn datgelu sut mae organebau’r môr yn addasu i’r llanw

Arglwydd Owen ar argyfwng yr Ewro

11 Ebrill 2013

Bydd y Cyn-Ysgrifennydd Tramor ac yn un o aelodau gwreiddiol Plaid  y Democratiaid Cymdeithasol, yr Arglwydd David Owen yn traddodi darlith gyhoeddus ar Ddiwygio'r Ewro a pholisi UE Prydain yr wythnos nesaf.

Aber yn Llundain

12 Ebrill 2013

Bydd Prifysgol Aberystwyth a Chymru yn Llundain yn cynnal cinio ar y cyd yn Llundain yr wythnos nesaf.

Trafod poblogaeth sy’n heneiddio

17 Ebrill 2013

Aberystwyth yn edrych ar y manteision a’r heriau sy’n wynebu cymdeithas sy'n heneiddio.

Nofelwyr ifanc gorau

17 Ebrill 2013

Sarah Hall, a raddio mewn Saesneg a Hanes Celf, yn cael ei hewni yn un o ugain nofelydd ifanc gorau Prydain.

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

18 Ebrill 2013

Datganiad ar Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Effeithiau seicolegol cancr

22 Ebrill 2013

Cynnal arddangosfa gelf wedi ei hysbrydoli gan brofiadau cleifion cancr y pidyn yn y Brifysgol yn Aberystwyth.

Bioblitz yn barod i chwalu record

23 Ebrill 2013

Trefnwyr bioblitz yn hyderus o ganfod y nifer fwyaf o rywogaethau ar gampws prifysgol mewn un diwrnod.

Darganfod cath fawr

25 Ebrill 2013

Cadarnhad fod ‘cath fawr’ yn rhodio cefn gwlad ar droad y ganrif ddiwethaf wedi i ymchwylwyr ddod o hyd i anifail dirgel mewn amgueddfa.

Y fasnach mewn pobl

26 Ebrill 2013

Astudiaeth newydd gan yr Athro yn y Gyfraith, Ryszard Piotrowicz, yn sail i ymgyrch bwysig i ddiogelu hawliau dioddefwyr y fasnach mewn pobl.

Merlod brodorol Cymru’n unigryw

26 Ebrill 2013

Merlod gwyllt sy'n pori ar lethau mynyddoedd y Carneddau yn enetaidd unigryw yn ôl ymchwilwyr o IBERS.

Glaswellt yn atal y lli

29 Ebrill 2013

Gwyddonwyr o IBERS yn canfod bod posibilrwydd i laswellt atal llifogydd.

Teyrnas hynafol y Nîl

30 Ebrill 2013

Ymchwilwyr yn datrys dirgelwch hirhoedledd gwareiddiad mwyaf Affrica i oroesi sychdwr trychinebus a ddinistriodd freninliniau enwog eraill.