Aber yn Llundain

Cymru yn Llundain

Cymru yn Llundain

12 Ebrill 2013

Bydd Prifysgol Aberystwyth a Chymru yn Llundain yn cynnal cinio ar y cyd yn Llundain yr wythnos nesaf.

Cynhelir y cinio yng nghlwb Caledonian yn Belgravia, Llundain ar ddydd Mawrth 16 Ebrill 2013. Y siaradwr gwadd fydd yr Anrhydeddus y Barnwr Nicholas Cooke cyn-fyfyriwr o Aberystwyth a barnwr troseddol uchaf yng Nghymru a  cuwch Farnwr Cylchdaith yn yr Old Bailey.

Bydd Is-Ganghellor Aberystwyth hefyd yn bresennol a bydd yn gyfle arbennig i gyn-fyfyrwyr Aberystwyth i ddod at ei gilydd.

Mae Cymru yn Llundain yn darparu cyswllt i Gymru ac yn y fforwm yn Llundain, lle gall aelodau gyfrannu at y drafodaeth genedlaethol ar faterion cymdeithasol, economaidd, chwaraeon, creadigol a busnes. Mae’r Barnwr Cooke yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, wedi iddo ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 1976 ac ennill Gwobr Sweet & Maxwell. Cafodd ei alw i'r Bar Middle Temple 1977 a blwyddyn yn ddiweddarach, ymunodd â chylchdaith Cymru a Chaer, lle y gwasanaethodd hyd 2007.

Fe'i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines yn 1998 ac yn Uwch Farnwr Cylchdaith yn 2007, a gwasanaethodd fel Cofiadur Caerdydd o 2007 hyd 2011. Ar hyn o bryd, ef yw’r Barnwr Ychwanegol yn y Llys Troseddau Canolog wedi ei benodiad yn 2012, Dirprwy Farnwr yr Uchel Lys, Adran Mainc y Frenhines, Llys Gweinyddol, Barnwr y

Llys Apêl, Adran Droseddol, a Changhellor Esgobaeth Tyddewi.

Cinio ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a Cymru yn Llundain. Caledonian Club, 9 Halkin Street, Belgravia, Llundain, SW1X ar ddydd Mawrth 16 Ebrill 2013. Gellir cael manylion pellach yma: http://walesinlondon.com/joint-dinner-with-aberystwyth-university/233/3/1/4

AU13413