Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Canolfan y Celfyddydau

Canolfan y Celfyddydau

18 Ebrill 2013

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yw’r ganolfan gelfyddydau fwyaf a mwyaf deinamig yng Nghymru ac fe’i cydnabyddir fel 'eicon cenedlaethol i’r celfyddydau'. Ers iddi agor ei drysau am y tro cyntaf 40 mlynedd yn ôl, mae wedi bod yn rhan annatod o Brifysgol Aberystwyth ac yn lleoliad gwerthfawr ar gyfer y gymuned. Nid oes unrhyw fwriad i gau'r Ganolfan ac nid oes unrhyw gynlluniau i newid yn sylweddol ei defnydd er mwyn dieithrio neu eithrio unrhyw aelod o'r gymuned. Mae'r Brifysgol yn gwbl ymroddedig i Ganolfan y Celfyddydau a'r rhaglen ardderchog o berfformiadau a digwyddiadau y mae'n ei chynnig.

Ymchwiliad
Ar hyn o bryd mae'r Brifysgol yn cynnal ymchwiliad i ddigwyddiadau a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ym mis Chwefror a materion sy'n codi ohonynt. Gan fod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo, ni fydd y Brifysgol yn gwneud sylwadau ar ei natur, ac ni fydd yn gwneud sylwadau ar unrhyw aelod o staff a allai fod yn gysylltiedig.

Fodd bynnag, mae'n bwysig sicrhau na wnelo’r ymchwiliad hwn ddim i’w wneud ag ailstrwythuro honedig Canolfan y Celfyddydau. Mae'r Brifysgol yn dadlau yn chwyrn, honiad crëwr y ddeiseb, fod Canolfan y Celfyddydau yn cael ei bygwth gan "ailstrwythuro llawdrwm" a " stripio asedau”.  Mae'r awgrymiadau hyn yn hollol ddi-sail ac wedi achosi cryn syndod a phoen diangen i lawer o gefnogwyr a defnyddwyr y Ganolfan y Celfyddydau ac i aelodau o'n staff.

Mae'r Brifysgol yn gwerthfawrogi ac yn adleisio llawer o sylwadau cadarnhaol defnyddwyr a chyfeillion Canolfan y Celfyddydau sydd wedi eu gwneud yn y wasg, gyda'u llofnodion ar y ddeiseb, ac ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo'n llwyr i ddefnydd y cyhoedd o Ganolfan y Celfyddydau ac ar gyfer y gymuned leol, ac nid oes unrhyw gynlluniau i leihau mynediad y cyhoedd i Ganolfan y Celfyddydau - i’r gwrthwyneb yn llwyr. Yn wir, yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, mae'r Brifysgol wedi darparu £ 5.1m o'i chyllideb graidd tuag at gostau rhedeg dydd i ddydd a seilwaith cyfalaf Canolfan y Celfyddydau. Mae'r Brifysgol yn gwerthfawrogi’r cyllid ychwanegol sydd ar gael gan ein partneriaid, yn enwedig gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ond mae buddsoddiad mewnol o dros £1m y flwyddyn yn adlewyrchu pwysigrwydd Canolfan y Celfyddydau fel rhan allweddol o raglen ymgysylltu’r Brifysgol â'r cyhoedd a'r gymuned.

Bu llawer o ddyfalu ynglŷn â dau aelod o staff y Brifysgol. Mae gan y Brifysgol ddyletswydd gofal i'w holl staff ac mae'n cymryd y ddyletswydd hon o ddifrif.  Nid yw Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau na gwadu atal honedig o staff mewn unrhyw ddatganiad cyhoeddus neu i unrhyw wasg neu'r cyfryngau, ac ni fydd yn gwneud hynny. Mae'r Brifysgol yn gwneud ei gorau glas i sicrhau bod materion staffio  yn aros yn hollol gyfrinachol bob amser, ac mae ganddi bolisi cyffredinol i beidio â gwneud yn gyhoeddus unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolion. Mae'n dal i fod yn gwbl ymrwymedig i hyn ac felly ni fydd yn cael ei thynnu i mewn i unrhyw drafodaeth ynghylch aelodau o staff y Brifysgol.

Yn gyffredinol, ac er eglurder, pe bai aelod o'n staff yn cael ei atal, byddai hyn yn rhagofalus ac yn caniatáu gofod ac amser i bawb i sefydlu'r ffeithiau y tu ôl i unrhyw faterion a allai fod wedi codi. Mae staff sydd wedi eu hatal dros dro yn parhau i fod yn weithwyr ac mae gennym ddyletswydd gofal drostynt. Gan weithio gydag unigolion, byddem yn dilyn ein trefn glir a gytunwyd arni i ymchwilio i faterion, gan fod hyn yn cynnig y cyfle gorau i sefydlu ffeithiau.

Dilynir prosesau clir tryloyw a hir-sefydlog pe bai unrhyw aelod o staff yn cael ei atal, prosesau sydd wedi eu cytuno â'n hundebau llafur cydnabyddedig. Nid yw'n bosibl i roi amserlen benodol ar gyfer unrhyw ymchwiliad o'r fath gan eu bod yn cael eu trin ar sail achos wrth achos. Er bod y Brifysgol yn anelu at gwblhau'r gwaith cyn gynted ag y bo modd, rhaid i bob ymchwiliad gael ei gynnal yn y modd mwyaf trylwyr a chynhwysfawr ag y bo modd, er mwyn sicrhau'r canlyniad tecaf posibl.

Mae'n arfer safonol nad yw’r cyflogwyr na’r gweithiwr yn rhoi sylwadau yn ystod ymchwiliad.

Os bydd unrhyw aelod o staff yn cael ei atal dros dro, byddai hyn bob amser mewn ymateb i dystiolaeth neu honiadau am yr unigolyn hwnnw y mae angen eu harchwilio. O dan brosesau a gweithdrefnau'r Brifysgol, ni ellid atal aelod o staff dros dro fel ymateb i newid sefydliadol yn unig.

Cynllun Strategol 2013-16
Bu’r Brifysgol yn gweithio tuag at lansio Cynllun Strategol newydd Canolfan y Celfyddydau ar gyfer 2013-16 tua diwedd mis Ebrill. Fodd bynnag, o ystyried y pryder cyhoeddus ar hyn o bryd, cafodd y dyddiad ei symud ymlaen. Mae eisoes ar gael i aelodau o staff Canolfan y Celfyddydau ac ar gael ar-lein yn http://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/cynllun-strategol-2013-2016-0

Gwaith Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Mr Alan Hewson a'i uwch dîm yw’r Cynllun Strategol newydd. Bu’n flwyddyn yn yr arfaeth ac mae’n ffrwyth mewnbwn ystod o bobl a sefydliadau sydd wedi ymrwymo i lwyddiant Canolfan y Celfyddydau yn y dyfodol fel lleoliad celfyddydol blaenllaw yng Nghymru, ac un o'r rhai mwyaf llwyddiannus a bywiog yn y Deyrnas Gyfunol.

Fe’i cymeradwywyd gan Gyngor y Brifysgol yn ei gyfarfod ym Mawrth 2013, ac mae’n nodi’n glir y weledigaeth a’r gwerthoedd sy'n galluogi Canolfan y Celfyddydau i wneud cyfraniad pwysig a gwerthfawr i'r Celfyddydau ar gyfer tref Aberystwyth, y rhanbarth, Cymru, y DG ac yn rhyngwladol. Mae'n tanlinellu ymrwymiad Canolfan y Celfyddydau i gael effaith gadarnhaol ar gymunedau drwy gymryd rhan weithredol yn y celfyddydau, yn ogystal ag i ymestyn a chryfhau cyfranogiad cymunedol ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

Gwnaed cyfraniadau sylweddol i'r ddogfen gan Fwrdd Ymgynghorol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, a sefydlwyd yn ystod haf 2012. Mae'r Bwrdd Ymgynghorol yn cynnwys cynrychiolwyr o randdeiliaid allweddol, ac unigolion annibynnol sy'n  weithwyr celfyddydau proffesiynol uchel eu parch a phrofiadol. Mae manylion llawn i'w gweld yn nhabl 1

Cyfraniad ariannol i Ganolfan y Celfyddydau
Mae'r Brifysgol wedi darparu £5.1 miliwn o'n cyllideb graidd i Ganolfan y Celfyddydau yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf i dalu am gostau rhedeg ac yn cyfrannu at fuddsoddiad cyfalaf. Mae hyn yn ychwanegol at y cyllid a werthfawrogir yn fawr gan gyllidwyr a rhanddeiliaid allweddol, yn ogystal â gwerthu tocynnau i gynulleidfaoedd sy'n mynychu'r amrediad gwych o berfformiadau a llefydd manwerthu a chaffis unigryw.

O'r £1 miliwn a ddarperir gan y Brifysgol bob blwyddyn, mae £700,000 yn cadw Canolfan y Celfyddydau i fynd a £ 340,000 yn mynd tuag at welliannau cyfalaf. Bob blwyddyn mae'r Brifysgol yn cymryd perchnogaeth o'r risg y gall incwm Canolfan y Celfyddydau ddisgyn. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i sicrhau bod Canolfan y Celfyddydau yn parhau i fod yn gyfleuster sy'n canolbwynt i gymuned fywiog, a pharhad ei rhaglen ardderchog o berfformiadau a digwyddiadau.

Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a Chelfyddydau Creadigol
O 1 Awst 2013, bydd Canolfan y Celfyddydau yn dod yn rhan o Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a Chelfyddydau Creadigol. Yn elfen bwysig o gynllun strategol pum mlynedd y Brifysgol, bydd yr Athrofa ryngddisgyblaethol newydd yn cryfhau cydlynu gweithgareddau ar draws adrannau, canolfannau ac unedau ymchwil y Brifysgol; datblygu cyfleoedd arweinyddiaeth ar lefel-uchel; caniatáu datganoli cyllidebau a gwneud penderfyniadau, a chaniatáu set gyffredin o ddisgwyliadau mewn gwasanaethau a chefnogaeth ar draws y Brifysgol.

O dan y strwythur newydd, bydd pob adran, gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau, yn dal at ei hunaniaeth, a bydd yn dal i gael Pennaeth neu Gyfarwyddwr fel y bo'n briodol. Bydd yr Athro Sarah Prescott yn arwain Athrofa newydd Llenyddiaeth, Ieithoedd a'r Celfyddydau Creadigol sydd hefyd yn cynnwys Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, yr Ysgol Gelf, Cymraeg, Ieithoedd Ewropeaidd a'r Ganolfan Gerdd.

Ymgynghorwyd yn llawn ar greu'r Athrofeydd newydd o fewn y Brifysgol. Gwahoddwyd staff a myfyrwyr i gyfrannu fel adrannau, grwpiau neu unigolion. Cynhaliwyd cyfarfodydd ymgynghori dros flwyddyn lawn, gyda rhai yn digwydd yng Nghanolfan y Celfyddydau.

Ym mis Tachwedd 2012, cafwyd  cefnogaeth unfrydol  Senedd y Brifysgol ac yna’r Cyngor i’r cynlluniau, sy'n creu'r amodau cywir ar gyfer cyflawni targedau Cynllun Strategol uchelgeisiol y Brifysgol.

Bydd y newid o fudd i raglen artistig Canolfan y Celfyddydau,  ei gwaith gyda myfyrwyr a staff, tra hefyd yn darparu amgylchedd creadigol ac ysbrydoledig ar gyfer artistiaid, perfformwyr ac aelodau o'r cyhoedd.

I fod yn glir, nid oes unrhyw fwriad i gau Canolfan y Celfyddydau ac nid oes unrhyw gynlluniau i newid yn sylweddol ei defnydd, i leihau nifer neu ystod o ddigwyddiadau, neu i gyfyngu ar fynediad i unrhyw aelod o'r gymuned. Mae'r Brifysgol yn gwbl ymroddedig i Ganolfan y Celfyddydau a'r rhaglen ardderchog o berfformiadau a digwyddiadau y mae'n eu cynnig.

AU10713