Awduron gwobrau preswyl Pwllpeiran

Karen Owen

Karen Owen

30 Gorffennaf 2013

Cyhoeddwyd taw’r ddau fardd, Elizabeth Godwin a Karen Owen, sydd wedi eu penodi’n Awduron Preswyl Pwllpeiran. 

Mae’r ddwy swydd dau fis yn cynrychioli’r cydweithio rhwng Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) a'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Cyllidwyd y cynllun sy’n dechrau ar ddydd Iau 1 Awst gan IBERS, ac mae’n rhoi rhwydd hynt i Karen ac Elizabeth i archwilio ac olrhain hanes a threftadaeth Pwllpeiran, a fydd yn cael ei adnabod fel Canolfan Ymchwil Ucheldir Cymru (CYUC). 

Daw’r cyhoeddiad hwn yn fuan iawn wedi cyhoeddi buddsoddiad o £2.5m yn CYUC, sydd â'r nod o drawsnewid y ganolfan yn adnodd ymchwil ucheldir o safon byd, ac yn gam tuag at wireddu uchelgeisiau IBERS ar gyfer amaethyddiaeth gynaliadwy yng Nghymru. 

Y bardd a newyddiadurwraig, Karen Owen, yw enillydd y gystadleuaeth ar gyfer Awdur Preswyl yr iaith Gymraeg. Dywedodd; "Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn pontio'r gagendor mawr sydd yna rhwng y byd gwyddonol a'r byd llenyddol yn Gymraeg, a dw i'n edrych ymlaen at gofnodi ac ymateb yn greadigol i'r gwaith ymchwil fydd yn digwydd ym Mhwllpeiran. 

"At hynny, dw i'n meddwl fod hanes Thomas Johnes a Stad yr Hafod yn un cyfareddol, ac mae'r olion pictwresg yn dal yno i ysbrydoli ac atgoffa ymwelwyr o gyfraniad mawr y dyn hwn.” 

Elizabeth Godwin yw enillydd gwobr Awdur Preswyl drwy’r Saesneg. Mae Elizabeth yn dysgu Saesneg yn Ysgol Abbots Bromley yn Swydd Stafford ac ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer ei PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Dywedodd; "Rwyf wrth fy modd ac wedi fy synnu gyda’r wobr hon. Mae’n wefr cael bod yn rhan o brosiect mor gyffrous gydag IBERS a'r Adran Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

“Mae cael gwahoddiad i wneud cyfraniad i faterion yn ymwneud â chynaliadwyedd a'r amgylchedd, yn ogystal â chael cyfle i ddatblygu fy niddordebau llenyddol ym maes ecoleg tirwedd, yn hynod o bwysig i mi. Rwy’n siŵr y bydd y cyfnod hwn yn mynd â'ng ngwaith i gyfeiriadau gwahanol a heriol iawn.” 

Bydd y cyfnodau preswyl, a ariennir gan IBERS ac sydd werth £3,000, yn cymryd lle rhwng mis Awst a mis Medi eleni ac fe fyddant yn chwarae rhan bwysig wrth gofnodi’r cyfnod hwn yn hanes IBERS. 

Eglurodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS; "Mae cynhyrchu bwyd a chynaliadwyedd yr ucheldiroedd wedi eu cydgysylldu ac wedi eu gwreiddio'n ddwfn  mewn diwylliant, iaith a chymdeithas. Mae'r fenter rhyng-ddisgyblaethol hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gymunedau gwledig a'r angen i fod yn hyrwyddwyr dros  ehangu dealltwiraeth y cyhoedd ac ybrydoli ymwybyddiaeth ac chyfle i fyfyrio ar rai o’r heriau mawr a’r cyfleoedd sy’n wynebu cymdeithas." 

Dr Kath Stansfield o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol a Dr Hywel Griffiths o'r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth oedd beirniaid cystadleuaeth Awduron Preswyl Pwllpeiran. 

Dywedodd Dr Stansfield; "Mae'r swyddi preswyl yma yn cynnig cyfle gwych i awduron gymryd rhan mewn deialogau hanfodol am gynaliadwyedd, defnydd tir, a diogelu cyflenwad bwyd, yn ogystal â hanes Pwllpeiran a'i threftadaeth ddiwylliannol bwysig. 

"Drwy weithio gyda grwpiau cymunedol, trigolion lleol, a'r rhai sy'n gweithio yn y CYUC, bydd yr awduron yn dod â phobl at ei gilydd i edrych ar y safle diddorol hwn, a datblygu eu gwaith creadigol eu hunain i gyfeiriadau newydd a diddorol." 

Mae buddsoddiad £2.5 miliwn Pwllpeiran yn rhan o fuddsoddiad gwerth £35 miliwn mewn campws ymchwil ac arloesi newydd yng Ngogerddan, Campws Aberystwyth ar gyfer Arloesi a Lledaenuhttp://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2013/07/title-138229-cy.html.