Galw am ddiogelu glaswelltiroedd capiau cwyr

Cap cwyr

Cap cwyr

15 Hydref 2013

Mae gan Gymru rai o'r cynefinoedd pwysicaf ac amrywiol yn wyddonol yn y byd i ffyngau glaswelltiroedd yn ôl ymchwilwyr o IBERS.

Yn y rhifyn diweddaraf o'r cyfnodolyn Mycosphere, mae tîm rhyngwladol dan arweiniad Dr Gareth Griffith o IBERS (Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) hefyd yn adrodd ei fod wedi darganfod rhywogaeth newydd o fadarch nad oedd yn hysbys i wyddoniaeth tan nawr, a 13 rhywogaeth arall sy'n heb eu cofnodi o'r blaen ym Mhrydain.

Fel arfer mae ffyngau sy’n ffurfio madarch yn cael eu cysylltu â chynefinoedd coetir ond mae dolydd glaswelltog a bryniau gogledd-orllewin Ewrop yn gartref i tua 400 o rywogaethau, gydag enwau diddorol megis capiau cwyr, ffwng pastwn bach a thafodau’r ddaear.

Fodd bynnag, mae dwysáu yn y technegau o amaethu dros y 75 mlynedd diwethaf wedi golygu bod y rhan fwyaf o'r glaswelltiroedd sy’n gymharol dlawd o ran maeth ac sydd ei angen ar y ffyngau hyn wedi eu dinistrio wrth i dir gael ei aredig a’i wella.

Cofnododd Dr Griffith a'i dîm bresenoldeb a’r niferoedd o ffyngau mewn 48 o safleoedd glaswelltir ym mhob rhan o Gymru , o Sir y Fflint ac Ynys Môn yn y gogledd i Sir Benfro a Sir Fynwy yn y de.

Dangosodd cymhariaeth o’u data gyda gwybodaeth o ardaloedd eraill yn Ewrop a thu hwnt bod sawl un o'r safleoedd gorau ar gyfer ffyngau glaswelltir yn Ewrop, a’r rhan fwyaf o'r safleoedd gorau yn y Deyrnas Gyfunol, i’w cael yng Nghymru.

Mae’r safleoedd hyn i’w gweld ledled Cymru, o Lanuwchllyn yng Ngwynedd i Fynydd Epynt ym Mhowys a Llanisien yng Nghaerdydd, ac mae nifer bellach wedi eu gwarchod fel safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSI).

Gobaith Dr Griffith a’i gydweithwyr yw y bydd cyhoeddi’r astudiaeth hon yn arwain at gydnabyddiaeth gyhoeddus ehangach o arwyddocâd byd-eang y cynefinoedd Cymreig yma, a ffyngau yn gyffredinol, i gadwraeth bioamrywiaeth.

“Mae'r rhan fwyaf o ymdrechion cadwraethol yn canolbwyntio ar anifeiliaid a phlanhigion, ac ychydig o werthfawrogiad a geir gan lawer o fiolegwyr o’r angen i amddiffyn cynefinoedd organebau eraill.”

Barn Dr Griffith hefyd yw bod gan dir mynyddig Cymru rôl bwysig i'w chwarae yng ngoroesiad yr ardaloedd hyn sydd mor gyfoethog o ran ffyngau.

"Mae’n bosibl iawn fod y cyfoeth o ffyngau yma yn deillio o’r ffaith nad oes modd trin tir mynydd gyda pheiriannau, ac felly nid yw’r tir wedi ei drin”, ychwanegodd. 

Fodd bynnag, mae'r astudiaeth hefyd wedi dangos y gall fod gan y ffyngau glaswelltir  yma gyfeillion annisgwyl. Maent yn ffynnu lle mae glaswellt yn cael ei gadw'n fyr, tasg sy’n cael ei chyflawni gyda chywirdeb manwl gan y boblogaeth anarferol o uchel o ddefaid a geir yng Nghymru.

Mae'r astudiaeth wedi cael ei ariannu gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (sydd bellach yn rhan o Gyfoeth Naturiol Cymru) a NERC, Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.

Mae'r erthygl yn dwyn y teitl “The international conservation importance of Welsh 'waxcap' grasslands” ar gael i’w lawr lwytho am ddim http://mycosphere.org/pdfs/MC4_5_No10.pdf

au37013