£14.2m i’r dyniaethau a’r celfyddydau

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

16 Hydref 2013

Mae Consortiwm y De, Gorllewin a Chymru, sy’n cynnwys Prifysgol Aberystwyth a saith o brifysgolion eraill sef Caerfaddon, Caerfaddon Spa, Bryste, Caerdydd, Caerwysg, Reading a Southampton, wedi derbyn £14.2 miliwn o gyllid gan Gyngor Ymchwil y Dyniaethau a'r Celfyddydau (AHRC) dros y bum mlynedd nesaf i ddarparu goruchwyliaeth, hyfforddiant a datblygu sgiliau ôl-raddedig o 2014 ymlaen.

Mae'r Consortiwm yn un o 11 o Bartneriaeth Doethuriaeth Hyfforddiant newydd (DTPs) a saith Canolfan ar gyfer Hyfforddiant Doethuriaeth (CDTs) sydd wedi cael cyfanswm o £164 miliwn o gyllid gan yr AHRC.

Bydd Consortiwm y De, Gorllewin a Chymru yn cynnig ysgoloriaethau a hyfforddiant ôl-raddedig ar gyfer holl ddisgyblaethau AHRC, gyda phwyslais cryf ar gydweithio rhwng aelodau'r consortiwm a 19 o sefydliadau partner gan gynnwys English Heritage, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y BBC, Cadw ac Opera Cenedlaethol Cymru.

Bydd y cyllid, sy'n cyfateb i 200 o ysgoloriaethau newydd, yn caniatáu cymorth ôl-raddedig arloesol, gan gynnwys datblygu sgiliau ehangach fel gweithio mewn partneriaeth a sgiliau iaith, a phrofiad o weithio y tu allan i'r byd academaidd drwy ddiwydiant a lleoliadau rhyngwladol.

Cafodd cais llwyddiannus y Consortiwm ei ganmol am ei "strategaeth gyson ac argyhoeddiadol ar gyfer darparu amgylchedd hyfforddi o ansawdd uchel iawn ar gyfer ôl-raddedigion”.

Dywedodd yr Athro Rick Rylance, Prif Weithredwr yr AHRC, " Mae hwn yn gam pwysig ymlaen o ran darparu hyfforddiant a'r cymorth gorau posibl ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig yn y celfyddydau a'r dyniaethau, ac i ddatblygu dull cydweithredol sy'n creu arbenigedd ac yn ehangu gorwelion ar gyfer ymchwilwyr ôl-radd. Rydym yn falch iawn o sut y mae'r sector, a phartneriaid y tu hwnt i'r sector, wedi ymateb ac rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda nhw i gefnogi'r genhedlaeth nesaf. "

Esboniodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; "Ar adeg pan mae llawer yn honni bod y Celfyddydau a'r Dyniaethau o dan fygythiad, mae'n wych gweld yr AHRC yn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.

"Yma yn Aberystwyth rydym yn croesawu'r cyfle i ddarparu ysgoloriaethau, hyfforddiant a chyfleoedd ar gyfer cydweithio ymchwil arloesol ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, yn y meysydd hyn o bwys mawr. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag aelodau eraill Consortiwm y De, y Gorllewin a Chymru dros y pum mlynedd nesaf er mwyn hyrwyddo ymchwil a dangos perthnasedd ac effaith y Celfyddydau a'r Dyniaethau i gymdeithas, ac i Gymru a'r byd. "

Mae'r Athro Tim Woods, sydd wedi bod yn arwain cais Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Consortiwm y De, y Gorllewin a Chymru, wrth ei fodd gyda'r newyddion:

"Mae hwn yn hwb gwych i'r Brifysgol, gan sicrhau ein bod yn adeiladu ar ein dyfarniad  blaenorol o wobr Partneriaeth Grant Bloc Doethuriaeth yr AHRC, ac yn hynod o bwysig i ddyfodol y celfyddydau a diwylliant ymchwil yn y dyniaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Bydd hefyd yn ein cynorthwyo yn ein strategaeth ar gyfer cynyddu  cydweithio rhyngddisgyblaethol, gan ddarparu'r cyfle i gydweithio yn agored gydag ymchwilwyr mewn gwahanol ddisgyblaethau sy'n rhan o'r chwe Phrifysgol arall yn y Consortiwm, ac i gynnig cyfleoedd arloesol i fyfyrwyr ar gyfer datblygu ar y cyd â diwydiannau, cyrff a sefydliadau mawr sy'n ymwneud â'r celfyddydau a dyniaethau ar draws y rhanbarth. "

Mae'r AHRC yn ariannu ymchwilwyr annibynnol o safon byd mewn ystod eang o bynciau: hanes hynafol, dawnsio modern, archeoleg, cynnwys digidol, athroniaeth, llenyddiaeth Saesneg, dylunio, y celfyddydau creadigol a pherfformio, a llawer mwy. Y flwyddyn ariannol hon, bydd yr AHRC gwario tua £98m i ariannu ymchwil a hyfforddiant ôl-raddedig ar y cyd â nifer o bartneriaid. Mae ansawdd ac ystod yr ymchwil a gefnogir gan y buddsoddiad hwn o arian cyhoeddus yn cyfrannu at lwyddiant economaidd y DU yn ogystal â darparu budd cymdeithasol a diwylliannol.

AU37213