Datganiad Robert Winnicki

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

23 Hydref 2013

Cafodd Prifysgol Aberystwyth wybod heddiw am gynlluniau i gynnal digwyddiad ar ddydd Gwener 25 Hydref gyda Robert Winnicki.

Hoffai'r Brifysgol gadarnhau nad yw hwn yn ddigwyddiad swyddogol Prifysgol Aberystwyth ac ni fydd yn cael ei gynnal ar unrhyw safle sy’n eiddo i Brifysgol Aberystwyth. Nid yw'r grŵp sy'n gyfrifol am drefnu’r digwyddiad yn gymdeithas  gydnabyddedig gan y Brifysgol nac ychwaith Undeb y Myfyrwyr. Mae gan y Brifysgol ethos cydraddoldeb ac amrywiaeth gref ac nid yw’n barod i gymeradwyo unrhyw ddigwyddiad sydd yn ymddangos i fynd yn groes i hyn.

AU39613