Cyfarwyddwr IBERS wedi’i benodi’n Brif Swyddog Gwyddoniaeth CGIAR

Yr Athro Wayne Powell

Yr Athro Wayne Powell

30 Hydref 2013

Mae’r Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi’i benodi’n Brif Swyddog Gwyddoniaeth yng Nghonsortiwm CGIAR.

Ymunodd yr Athro Powell â Phrifysgol Aberystwyth yn 2008, yn Gyfarwyddwr cyntaf ar  Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig a oedd newydd ei sefydlu.

Yn ystod ei bum mlynedd wrth y llyw, mae’r Athrofa wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys Gwobr Pen-blwydd Coroni’r Frenhines am Addysg Uwch yn 2009 am arwain y maes yn rhyngwladol yn ei gwaith bridio planhigion er budd y cyhoedd, ac fe gyrhaeddodd restr fer Gwobrau Addysg Uwch y Times yn 2013 yng nghategori Cyfraniad Eithriadol i Arloesi a Thechnoleg. Yn 2011 enillodd IBERS Wobr y BBSRC am Ragoriaeth ag Effaith.

Ers ei sefydlu, mae IBERS wedi denu cyllid ymchwil sylweddol, sydd wedi galluogi sefydlu Canolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion, Canolfan Rhagoriaeth Bioburo BEACON, werth £20m; a Chadair Bwyd a Ffermio, a Chanolfan Rhagoriaeth Ffermio’r DU a noddir gan Waitrose.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; “Bu Wayne Powell yn Gyfarwyddwr cyntaf ardderchog ar IBERS, ac mae wedi gwneud gwaith aruthrol i hybu proffil yr Athrofa a Phrifysgol Aberystwyth, yng Nghymru a’r tu hwnt. Yn bersonol, rwyf wedi mwynhau cydweithio ag ef yn fawr. Er fy mod i’n drist bod Wayne yn symud ymlaen o IBERS, ac mi fyddwn yn gweld ei eisiau, dyma gyfle eithriadol o dda iddo chwarae rhan ar y lefel uchaf yng ngwaith cyfarwyddo ac ariannu ymchwil ym maes amaeth, a hynny ar lwyfan ehangach o lawer. Cadwn mewn cysylltiad ag Wayne ac edrychwn ymlaen at ei groesawu’n ôl i Aberystwyth yn rheolaidd. Rydym yn dymuno’r gorau iddo ac yn llongyfarch Wayne yn bersonol, yn ogystal â llongyfarch CGIAR hwythau am wneud penodiad mor ardderchog.”

Mae IBERS yn derbyn cyllid strategol gan y Cyngor Ymchwil i Fiotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC).

Dywedodd yr Athro Jackie Hunter, Prif Weithredwr y BBSRC; “Dangosodd yr Athro Powell arweinyddiaeth benigamp wrth sefydlu IBERS fel canolfan o bwys yng ngwledydd Prydain am ragoriaeth ei ymchwil ac wrth gydweithio â diwydiannau i sicrhau bod y gwaith ymchwil hwnnw’n cael ei roi ar waith ac yn cael yr effaith fwyaf posib.

Mae wedi sicrhau bod y gwaith yn canolbwyntio’n benodol ar fynd i’r afael â’r heriau o bwys, gan gynnwys: sicrhau mwy o gynnyrch o’r tir ond hynny mewn modd cynaliadwy; sicrhau cyflenwadau bwyd yn fyd-eang; a chyfleoedd yn y fio-economi i ddefnyddio porthiant amaethyddol ar gyfer bioynni a chynnyrch arall. Dymunwn bob llwyddiant i Wayne Powell yn ei swydd newydd, ac edrychwn ymlaen at ddal ati i feithrin y gwaith cydweithredol rhwng y BBSRC, sefydliadau a ariennir drwy’r BBSRC, a CGIAR.”

Dywedodd yr Athro Powell; “Mae’n destun balchder ac yn anrhydedd i mi fy mod wedi cael arwain IBERS yn y blynyddoedd cynnar ac rwyf wedi mwynhau fy amser yn Aberystwyth yn fawr iawn. Hyderaf fod yr Athrofa erbyn hyn mewn sefyllfa dda i allu adeiladu ar sylfaen llwyddiannau’r pum mlynedd diwethaf, a dymunaf bob llwyddiant i’m holynydd.

Mae fy swydd newydd yn gyfle hynod gyffrous i chwarae rhan arwyddocaol wrth feithrin Ymchwil Fyd-eang yn y Byd sy’n Datblygu. Edrychaf ymlaen yn ddirfawr at yr her honno, a’r cyfle i gyfrannu at faes sy’n ddiddordeb personol imi ers hir.”

Er mwyn hwyluso’r trosglwyddiad, bydd yr Athro Powell yn rhannu ei amser rhwng IBERS a’i  rôl yn CGIAR o 1 Ionawr 2014, cyn iddo gymryd yr awenau yn llawn amser yn CGIAR ym mis Ebrill.

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn mynd ati’n ddiymdroi, gan gydweithio â’r BBSRC, i ddenu olynydd teilwng i’r Athro Powell.

CGIAR
Mae CGIAR yn bartneriaeth fyd-eang sy'n uno sefydliadau sy'n ymwneud ag ymchwil ar gyfer dyfodol bwyd diogel. Mae Ymchwil CGIAR yn ymroi i leihau tlodi gwledig, cynyddu diogelwch bwyd, gwella iechyd a mae maeth pobl, a sicrhau rheolaeth fwy cynaliadwy o adnoddau naturiol. Cyflawnir hyn gan y 15 canolfan  sy'n aelodau o Gonsortiwm CGIAR mewn cydweithrediad agos â channoedd o sefydliadau partner, gan gynnwys sefydliadau ymchwil rhanbarthol a chenedlaethol, mudiadau cymdeithas sifil, y byd academaidd, a'r sector breifat. www.cgiar.org.

AU40313