Gweithio i atal straen

Logo Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen.

Logo Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen.

05 Tachwedd 2013

Mae hi’n Ddiwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen yfory (dydd Mercher 6 Tachwedd), a bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal llwybr lles ar Gampws Penglais a fydd yn cynnwys gweithgareddau fel sesiwn tylino, ymarferion rhyddhau straen a sesiwn sgrinio iechyd  ar gyfer staff a myfyrwyr.

Mae'r llwybr yn cwmpasu llawer o leoliadau ar y Campws gan gynnwys y Ganolfan Iechyd a Lles Myfyrwyr, Llyfrgell Hugh Owen, Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, Canolfan Chwaraeon, TaMed Da, Adeilad Carwyn James, Canolfan y Celfyddydau ac Undeb y Myfyrwyr.

Bydd pob lleoliad yn cynnig rhywbeth gwahanol megis sesiwn tylino’r pen a’r ysgwyddau yn y Ganolfan Chwaraeon, sesiwn sgrinio iechyd yn Llyfrgell Hugh Owen a bwydlen arbennig yn TaMed Da i arddangos bwydydd sy'n helpu i leddfu straen.

Bydd taith gerdded 20 munud ogwmpas y campws yn ystod amser cinio yn cael ei chynnal hefyd a fydd yn dechrau am 12.15 o'r Ganolfan Gelfyddydau. Am restr lawn o ddigwyddiadau, cliciwch ar http://www.aber.ac.uk/en/supporting-staff/work/healthanddisability/stress-awareness/

Eglurodd yr Athro Kate Bullen, Cyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Dynol y Brifysgol; “Mae un o bob pedwar o bobl yn dioddef o broblemau iechyd meddwl yn y DG - mwy o bobl nag yr ydym yn ei feddwl. Fodd bynnag, yn aml iawn, ni fydd pobl yn cydnabod ac yn trafod eu pryderon oherwydd y stigma sydd ynghlwm a materion iechyd meddwl.

“Er mwyn rhoi hwb i iechyd a lles ein staff a myfyrwyr, fe benodwyd yn ddiweddar Hyrwyddwr Iechyd fel rhan o'r rhaglen Hyfforddi Graddedig i helpu hyrwyddo a datblygu mentrau iechyd a lles yn y Brifysgol.”

Fe benodwyd Michele Presecane yn Hyrwyddwr Iechyd ym mis Medi eleni. Yn wreiddiol o'r Eidal, cafodd Michele radd dosbarth gyntaf mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Aberystwyth yn 2012 ac yn 2013, cwblhaodd MSc mewn Ymarfer ac Ymchwil Iechyd hefyd yn Aberystwyth.

Dywedodd, "Mae hwn yn gyfle gwych i mi ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda phob adran yn y Brifysgol dros y flwyddyn nesaf i wella mentrau iechyd.

“Gall gormod o straen gyfrannu at ystod eang o broblemau iechyd, gan gynnwys cur pen, poen stumog, problemau cysgu, problemau canolbwyntio, pwysedd gwaed uchel a hyd yn oed strôc neu glefyd y galon, ac felly mae hi’n hanfodol fod mwy o bobl yn cadw'n heini ac yn iach."

Yn ystod y dydd, bydd cynrychiolwyr o Wasanaeth Cynghori Gyrfaoedd y Brifysgol ac Adnoddau Dynol wrth law i roi cyngor a chymorth i fyfyrwyr.

"Y syniad gyda’r diwrnod yma yw cael pobl i feddwl am eu lles cyffredinol ac, o bosibl, trafod unrhyw faterion neu bryderon mewn amgylchedd cyfeillgar a gyda phobl a fydd yn deall eu sefyllfa," ychwanegodd yr Athro Bullen.

"Y nod hefyd yw estyn allan at ein staff a’n myfyrwyr a rhoi gwybod iddynt am y cymorth a’r cyngor sydd ar gael yn y Brifysgol ac yn y gymuned ehangach.”


AU40113