Pennaeth newydd Cyfrifiadureg

Dr Bernard Tiddeman

Dr Bernard Tiddeman

06 Rhagfyr 2013

Penodwyd Dr Bernard Tiddeman yn Bennaeth ar yr Adran Gyfrifiadureg.

Dechreuodd Dr Tiddeman yn ein swydd fel Pennaeth Adran ar y 1af o Ragfyr. Ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth yn 2010 fel Uwch Ddarlithydd, ac mae’n arbenigwr ar ddadansoddi delweddau gwyneb.

Mae’n raddedig mewn Mathemateg Gymhwysol o Brifysgol St Andrews ac astudiodd ar gyfer gradd meistr (MSc) mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Manceinion a doethuriaeth PhD mewn dadansoddiad 3D o siâp yr wyneb ym Mhrifysgol Heriot-Watt, cyn datblygu gyrfa academaidd fel ymchwilydd a darlithydd, yn gyntaf ym Mhrifysgol St Andrews, ac yn fwy diweddar fel Uwch Ddarlithydd yn Aberystwyth.

Un elfen o'i waith yw dadansoddi heneiddio gweledol o wynebau dynol mewn 3D, gwaith a allai fod yn ddefnyddiol iawn wrth chwilio am bobl goll a gwella gweithdrefnau cydnabod a chynorthwyo cynllunio llawfeddygol.

Cyhoeddodd tua 60 o bapurau ymchwil mewn Cyfrifiadureg, Seicoleg a Meddygaeth, ac mae wedi cael dros £1 miliwn o grantiau a phrosiectau wedi eu hariannu gan EPSRC, ESRC, AHRC ac Unilever.

Mewn ymateb i’w benodiad, dywedodd Dr Tiddeman; "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y swydd a chydweithio gyda’m cydweithwyr, a llywio cyfeiriad yr Adran i’r dyfodol. Mae'r adran wedi tyfu'n sylweddol ers i mi ddechrau yn Aberystwyth ac mae nifer y myfyrwyr hefyd wedi cynyddu’n aruthrol, sy'n dyst i’r gwaith gwych sy'n cael ei wneud yma."

Dywed yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; "Mae’n bleser gen i longyfarch Dr Tiddeman ar ei benodiad yn Bennaeth Adran. Mae dyrchafu unigolion o fewn y Brifysgol i swyddi arweinyddiaeth yn rhoi boddhad arbennig ac edrychaf ymlaen at gydweithio ag ef.”

"Mae’n brofiadol iawn ac yn academydd uchel ei barch a dymunaf yn dda iddo yn ei swydd arweinyddol newydd wrth iddo adeiladu ar y datblygiadau sydd ar droed o fewn yr Adran ac yn yr Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg ehangach. Fel Prifysgol sydd wedi eu rhestru ymysg y 40 uchaf o ran ymchwil yn y Deyrnas Gyfunol, mae’n gyfnod hynod gyffrous i fod yn academydd yn Aberystwyth."

Mae Dr Tiddeman yn cymryd yr awenau oddi wrth yr Athro Qiang Shen a gafodd ei ddyrchafu yn ddiweddar yn Gyfarwyddwr Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg y Brifysgol.

AU42113