Ymchwil folcano ar restr fer Lloyd’s

Dr Carina Fearnley yn seremoni Gwobr Gwyddoniaeth Ymchwil Risg Lloyd’s 2013

Dr Carina Fearnley yn seremoni Gwobr Gwyddoniaeth Ymchwil Risg Lloyd’s 2013

16 Rhagfyr 2013

Roedd Dr Carina Fearnley o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn un o bum ymgeisydd i gyrraedd rhestr fer gwobr flynyddol Gwyddoniaeth Ymchwil Risg Lloyd’s eleni, a oedd yn canolbwyntio ar elfennau dynol o risg.

Cafodd Dr Fearnley, darlithydd mewn Peryglon Amgylcheddol yn Aberystwyth, ei chynnwys ar restr fer categori 'Risg Ymddygiadol' ac mae’n edrych ar y prosesau penderfyniadau sy'n gysylltiedig wrth neilltuo lefel rhybudd llosgfynydd a'r cymhlethdod risg sy'n gysylltiedig â’r broses.

Mae ei hymchwil yn edrych ar Leihau Risg Trychineb, ac yn canolbwyntio ar y rôl o ddeall a chyfathrebu ansicrwydd, risg a chymhlethdod i ddatblygu gallu i wrthsefyll peryglon naturiol ac amgylcheddol.

Gan ddefnyddio cyfweliadau a gynhaliwyd rhwng 2007 a 2009 mewn pum arsyllfa llosgfynydd Arolwg Daearegol UDA yn Alaska, Cascades, Hawaii, Long Valley, a Yellowstone, dangosodd Dr Fearnley nad yw penderfyniadau rhybuddio yn seiliedig ar wyddoniaeth yn unig ond hefyd ar gyd-destun cymdeithasol lle mae'r argyfyngau yn digwydd.

Eglurodd Dr Fearnley, "Mae'r ymchwil hwn yn cyflwyno’r dadansoddiad cyntaf o'r prosesau gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â neilltuo rhybudd mewn system lefel rhybudd llosgfynydd mewn gwahanol grwpiau sy'n ymwneud â’r argyfwng, fel y gwyddonwyr, ymatebwyr brys a llunwyr polisi.

"Y gobaith o'r ymchwil yma yw cael gwell dealltwriaeth o sut mae asesu a chyfathrebu peryglon a risg ar gyfer peryglon naturiol yn digwydd yn ymarferol, er mwyn lleihau colli bywyd ac effeithia economaidd a chymdeithasol ar gymunedau sy'n agored i niwed yn y dyfodol.

"Roeddwn wrth fy modd o gael fy nghynnwys ar y rhestr fer gan fod hyn yn gydnabyddiaeth o werth gwaith rhyngddisgyblaethol, a'r budd y gall hyn ei gynnig i'r sector yswiriant ac i lawer o unigolion a sefydliadau sy'n ymwneud â pheryglon naturiol.

"Fy nghred i yw y gall gwaith rhyngddisgyblaethol ddarparu budd enfawr mewn ymateb i broblemau sy'n wynebu cymdeithas heddiw na all disgyblaethau traddodiadol fynd i'r afael â nhw ar ben eu hunain drwy ddwyn ynghyd y cyfoeth o wybodaeth a thechnegau gwahanol ddisgyblaethau fel y gellir datblygu gwell dealltwriaeth o'r problemau ac yn sgil hynny, ddod o hyd i atebion effeithiol."

AU44413