Buddsoddiad sylweddol mewn biotechnoleg diwydiannol

Dr Joe Gallagher, IBERS

Dr Joe Gallagher, IBERS

20 Rhagfyr 2013

Bydd gwaith ymchwil i ddatblygu cynnyrch diwydiannol o blanhigion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael cyfran o fenter £18m i gefnogi Rhwydweithiau Biotechnoleg a Bio-ynni Diwydiannol yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos hon gan David Willetts, Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth y Deyrnas Gyfunol. 

Mae’r Rhwydweithiau yn cael eu cyllido gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) ac wedi eu creu i hyrwyddo cysylltiadau rhwng ymchwil academaidd a diwydiant er mwyn darparu prosesau cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu bio-gynnyrch yn lle cynnyrch sydd ar hyn o bryd yn dibynnu ar betrogemegau. 

Mae Dr Joe Gallagher o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth,  a’r Athro David Leak o Brifysgol Caerfaddon yn cyfarwyddo un o 13 rhwydwaith diwydiant-academia unigryw ‘Rhwydwaith o Dechnolegau Integredig: O’r Planhigyn i’r Cynnyrch’. 

Bydd y rhwydwaith, sy’n cynnwys mwy na 50 o aelodau academaidd ac o ddiwydiant, yn darparu llwyfan sy’n dod ag academyddion ac arbenigwyr diwydiannol sy’n gweithio ym meysydd arloesi, gweithgynhyrchu a chadwyni cyflenwi o fewn biotechnoleg ddiwydiannolat ei gilydd. 

Bydd yn canolbwyntio ar integreiddio prosesau bio-buro cyfan, o’r deunydd dechreuol at gynhyrchu a chyflenwi cynnyrch. Bydd y deunydd dechreuol yn cynnwys cnydau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer bwyd, a gwastraff amaethyddol a diwydiannol. 

Bydd y rhwydwaith yn darparu cyllid ar cyfer proseictau bychain profi cysyniad a fydd yn taclo’r rhwystrau at fasnacheddio a byddant yn sail i geisiadau am gyllid o gronfa Catalydd Biotechnoleg Diwydiannol £45m sydd yn cael ei chyllido gan y BBSRC, Cyngor Ymchwil Gwyddorau Ffisgol a Pheirianneg (EPSRC) a’r Bwrdd Strategaeth Technoleg (Technology Strategy Board, TSB). 

Wrth groesawu’r datblygiad, dywedodd Dr Gallagher; “Dyma gyfle cyffrous i gyfuno arbenigedd ac adnoddau o’r byd academaidd a byd busnes fel ei gilydd i gefnogi’r bio-economi drwy fynd i’r afael â rhai o’r prif heriau ym maes biotechnoleg ddiwydiannol.” 

Dywedodd y Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth, David Willetts; "I lwyddo yn y ras fyd-eang mae angen i ni droi ein gwyddoniaeth ac ymchwil o safon byd yn gynnyrch a gwasanaethau o safon byd, yn unol â’n Strategaeth Ddiwydiannol. Bydd y rhwydweithiau hyn yn datgloi potensial aruthrol biotechnoleg a bio-ynni, megis dod o hyd i ffyrdd arloesol o ddefnyddio bwyd gwastraff, a chreu cemegau o gelloedd planhigion.” 

Dywedodd Dr Celia Caulcott, Cyfarwyddwr Gweithredol Arloesi a Sgiliau y BBSRC: “Mae’r rhwydweithiau hyn yn cyfuno nifer o gymunedau rhyngwladol gystadleuol, traws-ddisgyblaethol, sy’n medru cyflawni ymchwil arloesol a fydd yn denu buddsoddiadau pellach o’r DU a thramor. 

“Maent yn cynnig cyfle newydd i’r gymuned ymchwil wneud cyfraniadau sylweddol i’r bio-economi ym Mhrydain: gan yrru biowyddoniaeth drawsffurfiol i brosesau a chynnyrch diwydiannol; creu cyfoeth a swyddi; a darparu manteision amgylcheddol, megis lleihau CO2.” 

Mae IBERS yn derbyn cyllid ymchwil strategol gan y BBSRC i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae'n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a'r Undeb Ewropeaidd.

AU45013