Ymchwil yn anelu at ddeall risgiau llifogydd a dŵr yn well

Aberystwyth storms

Aberystwyth storms

15 Ionawr 2014

Mae Prifysgol Aberystwyth, mewn partneriaeth ag wyth prifysgol arail yn y Deyrnas Gyfunol, wedi cael grant gwerth £1.5 miliwn a fydd yn helpu cymunedau, unigolion a llunwyr polisi i ddeall materion dŵr yn well megis perygl llifogydd, risg sychder, cael cyflenwadau dŵr, a diogelu cyflenwadau dŵr a systemau gwastraff, mewn ffordd greadigol.

Mae dŵr wedi effeithio ar Gymru’n ddifrifol yn ystod yr wythnos diwethaf, ac yn wir dros y ddwy flynedd diwethaf, gydag ymchwyddiadau storm eithafol a llifogydd mewn llawer o ardaloedd, yn fwyaf amlwg yn Nhal-y-bont ym mis Mehefin 2012.

Gydag un o bob chwe eiddo (sef 600,000 o bobl mewn 375,000 o adeiladau) yng Nghymru mewn perygl llifogydd, mae hyn yn golygu £200m o risg economaidd flynyddol i eiddo preswyl a busnes.

Bydd y prosiect, 'Hydro-ddinasyddiaeth: Cysylltu cymunedau trwy ymatebion i faterion dŵr cyd-ddibynnol a lluosog', yn rhedeg am dair blynedd gan ddechrau ym mis Mawrth 2014.

Mae’n anelu at hybu integreiddio gwybodaeth ac arbenigedd ar draws ystod o ddisgyblaethau perthnasol mewn ffordd a allai effeithio ar syniadau a llunio polisi ar y lefelau lleol a chenedlaethol.

Bydd y pedair astudiaeth achos yn ystyried materion dŵr cymunedol yn Nhal-y-bont a’r Borth, Bryste, Cwm Lee (Llundain) a Shipley yn Bradford.

Sara Penrhyn Jones, darlithydd yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, fydd yn goruchwylio'r gwaith o Brifysgol Aberystwyth.

Eglurodd Sara, "Prif nod y gwaith hwn yw rhannu arbenigedd a chydweithio yn y maes hwn er mwyn deall yn well y materion yn ymwneud â dŵr, a’u cyfle yn well i gymunedau fel bod pobl yn fwy gwybodus o'r materion dŵr sy’n effeithio eu hardal. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar y celfyddydau i annog deialog gyhoeddus hanfodol bwysig."

"Mae'r tywydd eithafol diweddar yng ngwledydd Prydain, ac yn fy nhref fy hun sef Aberystwyth, wedi ein hatgoffa o beryglon codi lefelau’r môr a llifogydd, ac felly mae’r prosiect hwn yn teimlo yn arbennig o amserol. Drwy siarad â phobl leol, mae awydd am wybodaeth a thrafodaeth bellach ynghylch yr heriau hyn yn amlwg."

“Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi rhyw £40 miliwn yn uniongyrchol mewn rheoli risgiau llifogydd ac erydu arfordirol bob blwyddyn, ac mae wedi nodi pwysigrwydd cyfathrebu â'r cyhoedd fel blaenoriaeth allweddol”, ychwanegodd.

Penodwyd Sara yn 2011 o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n hyrwyddo addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, “Hoffwn longyfarch Sara ar gael ei dewis yn un o ddeg academydd ar draws Prydain i fod yn rhan o brosiect mor allweddol a dymuno’r gorau iddi wrth gydweithio gyda thrigolion Talybont a'r Borth. Mae’r prosiect yn amserol tu hwnt ac edrychwn ymlaen at weld ffrwyth ei gwaith ymchwil ymhen tair blynedd.’’

Bydd pob astudiaeth achos yn cael ei chydlynu gan dîm academaidd lleol a fydd yn cynnwys gweithio gydag artistiaid, gweithredwyr cymunedol a phartneriaid cymunedol a ddewiswyd, yn amrywio o grwpiau cymunedol bach i sefydliadau mwy sy'n gyfrifol am agweddau ar adfywio a chadernid cymunedol.

Bydd yr astudiaethau achos lleol yn y Borth a Thal-y-bont yn cael eu cyd-reoli gan Sara Penrhyn Jones ac Alex Plows o Brifysgol Bangor. Bydd yr hwyluswyr celfyddyd gymunedol, Creu-Ad, yn rhan o’r gwaith yn ogystal ag Ecodyfi.

Mae’r grant o £1.5 miliwn o gronfa ‘Connected Communities, Environments and Sustainability’ Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â Sara Penrhyn Jones ar saj17@aber.ac.uk

AU1414