Prifysgol Aberystwyth yn y 10 uchaf ar gyfer myfyrwyr o Norwy

Ellen Dingstad

Ellen Dingstad

22 Ionawr 2014

Mae Prifysgol Aberystwyth yn y 10 uchaf ymysg myfyrwyr o Norwy sy’n dewis astudio yn y Deyrnas Gyfunol a’r dewis cyntaf iddynt yng Nghymru yn ôl ffigyrau diweddaraf HESA (Higher Education Statistics Agency)

Mae oddeutu 900 o fyfyrwyr rhyngwladol o fwy na 90 o wledydd wedi ymgartrefu yn Aberystwyth, gan wneud y Brifysgol yn le gwirioneddol cosmopolitaidd. 

Yr adrannau mwyaf poblogaidd ymysg y 98 o fyfyrwyr o Norwy sy’n astudio yn Aberystwyth ar hyn o bryd yw Gwleidyddiaeth Ryngwladol - yr adran gyntaf o’i bath yn y byd, ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. 

Yn wreiddiol o Oslo yn Norwy, mae Ellen Dingstad yn fyfyriwr yn y drydedd flwyddyn yn astudio Astudiaethau Ffilm a Theledu yn Aberystwyth. Esboniodd, “Rwyf wir yn mwynhau astudio yma. Mae’r darlithwyr yn fy annog i wneud yn dda, ac o ganlyniad rwyf am wneud y brifysgol yn falch ohonof. 

"Mae Aberystwyth yn le cymdeithasol iawn ac mae mor hawdd i ddod i adnabod pobl eraill a hefyd, y Norwyaid eraill yn y dref. Mae ystod eang o weithgareddau cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr i gymryd rhan ynddynt gan yn Norwy, nid oes llawer o ddewis gan ei fod yn canolbwyntio yn gryf ar academia.” 

Fe gafodd Ellen brofiad gwaith yn ddiweddar ar set ffilmio Y Gwyll / Hinterland ac ychwanegodd, “Mwynheais fy amser ar set Y Gwyll. Efallai nad hwn yw’r proffesiwn hawsaf i fynd i mewn iddo, ond mae wedi bod yn anhygoel cael cyfrannu at greu rhywbeth fel hyn. Mae'r profiad hwn wedi cryfhau fy nghred mewn dilyn gyrfa o fewn ffilm a theledu.” 

Mae Myfyrwyr o Norwy yn rhagori yn y brifysgol gyda 70% yn ennill gradd dosbarth cyntaf neu ail uchaf o'i gymharu â 59% o bob gwlad arall (haf 2013). 

Yn y Brifysgol mae myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau cymdeithasol a chwaraeon. Mae’r Myfyrwyr o Norwy yn arbennig o lwyddiannus yn y gweithgareddau hyn gyda nifer yn dod yn llywyddion ac yn gapteiniaid cymdeithasau a chlybiau chwaraeon. 

Mae gan Brifysgol Aberystwyth yr ystod orau o Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau a Gwobrau o unrhyw brifysgol yn y DG (Higher Expectations Report / Youth Sight 2012-13) a’r campws prifysgol fwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr (Complete University Guide 2013 / Daily Mail 22/07/13).

AU44714