Dathliadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd

Ula Wang

Ula Wang

27 Ionawr 2014

I ddathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd y mis yma, dathliad pwysicaf y flwyddyn yn Tsieina, mae noson o gerddoriaeth byw, dawnsio draig a Tsieineaidd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth ar ddydd Gwener 31 Ionawr ac mae ar agor i'r cyhoedd.

Mae’r noson, a gynhelir rhwng 6.30 -8yh, wedi ei threfnu gan Ula Wang o Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol a gafodd ei geni a'i magu yn Wuhan yn Tsieina.

Bydd disgyblion ac athrawon o Ysgol Penglais yn mynychu'r digwyddiad, ynghyd â rhai o'r myfyrwyr Tsieineaidd yma yn Aberystwyth.

Eglurodd Ula, a ddechreuodd ei swydd ym mis Chwefror y llynedd, "Mae gennym nifer fawr o fyfyrwyr ethnig Tsieineaidd yma yn Aberystwyth, sydd ar hyn o bryd yn sefyll ar 375.

"Rwyf mor falch bod Aberystwyth yn cymryd pob cam posib i sicrhau fod myfyrwyr rhyngwladol yn teimlo'n gartrefol yma ac rwyf wrth fy modd i drefnu’r digwyddiad yma ar eu cyfer yn ogystal â'r gymuned leol."

Astudiodd Ula ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 2007-2008 a graddiodd mewn Marchnata. Dychwelodd i Beijing yn 2008 a bu'n gweithio yn y sector Addysg Uwch am bum mlynedd cyn cymryd y rôl yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ychwanegodd, "Fe wnes i wir fwynhau fy nghyfnod yng Nghymru yn 2007 ac roeddwn yn awyddus i ddychwelyd i weithio yma. Mae cael y swydd hon wedi bod yn benderfyniad mawr i mi, ond yr oedd yn bendant y peth iawn i'w wneud ac rwy'n mwynhau pob munud ohono."

Mae'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd , a’i hadnabyddir hefyd fel Gŵyl y Gwanwyn, yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf mis y lleuad gyntaf (fel arfer ddiwedd Ionawr neu ddechrau Chwefror) ac yn gorffen ar y 15fed dydd o'r mis lleuad gyntaf, a’i helwir hefyd Gŵyl y Llusern.

Cynhelir y noson rhwng 6:30-8yh a chost mynediad yw £1.50 y person. Fe fydd y bwyd ar gyfer yr ŵyl yn cael ei ddarparu gan fwyty Tsieineaidd Wasabi yn Aberystwyth.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Ms Ula Wang ar 01970 621814 / yaw6@aber.ac.uk

AU2114