Gwella llywodraethu dŵr o gwmpas y byd

Yr Athro Tony Jones

Yr Athro Tony Jones

13 Chwefror 2014

Mae’r Athro Tony Jones, Athro Emeritws yn yr Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi ei benodi yn Brif Aseswr ar gyfer y 7fed Cyfnod o Raglen Hydrolegol Ryngwladol UNESCO (International Hydrological Programme IHP) sy'n anelu at wella'r broses o reoli dŵr a glanweithdra o amgylch y byd a helpu gweithredu Amcanion Datblygu Mileniwm y Cenhedloedd Unedig ar ddŵr. 

Yr IHP yw'r sefydliad dŵr rhyngwladol hynaf a mwyaf sefydledig o fewn y Cenhedloedd Unedig (CU) ac mae’n arbenigo mewn prosiectau ymchwil a datblygu sy'n gysylltiedig â rheoli dŵr, yn enwedig o ran gwella llywodraethu dŵr mewn gwledydd datblygedig. Mae'n gwasanaethu 190 o aelod-wladwriaethau. 

Mae'r rhaglen yn gweithredu mewn cyfnod o ymchwil ac adeiladu gallu mewn gwledydd sy'n datblygu ar gylchgro 6 mlynedd. 

Esbonia'r Athro Tony Jones, "Dros y blynyddoedd, mae’r IHP wedi symud ymlaen o wyddoniaeth bur i wella llywodraethu dŵr byd-eang, hyfforddi gweithwyr proffesiynol a mynd i'r afael ag anghenion cymdeithasol, eto yn bennaf mewn gwledydd datblygedig. Mae gan bob gwlad Gomisiwn UNESCO ac mae gan y rhan fwyaf Bwyllgor IHP yn adrodd iddo. 

“Fy rôl i yw asesu cam olaf y rhaglen ac awgrymu gwelliannau ar gyfer y cam nesaf sy'n para tan 2021, gan gynnwys y gwaith o redeg yr Ysgrifenyddiaeth Pencadlys UNESCO ym Mharis. 

“Gwelwyd cynnydd mawr mewn cystadleuaeth dros y degawd diwethaf gyda’r cynnydd yn nifer y sefydliadau rhyngwladol sy'n ymwneud â gwella rheolaeth dŵr a glanweithdra o gwmpas y byd. 

“Mae angen i'r IHP gynnal mantais gymharol a chanolbwyntio ar y meysydd hynny lle maent yn gweithio'n dda. Fel sefydliad sy’n rhan o’r CU, mae'n rhaid iddo fodloni gofynion yr aelod-wladwriaethau, a all fod yn amrywiol iawn, a gall biwrocratiaeth fod yn heriol. Un o'i swyddogaethau mwyaf pwysig yw datrys gwrthdaro. 

“Mae 40% o ddynoliaeth yn byw mewn basnau afonydd a rennir yn rhyngwladol, fel y Nîl. Mae IHP yn arbenigo mewn hyfforddi gwyddonwyr i gynghori llywodraethau ar sut y mae datrys gwrthdaro dros adnoddau dŵr a rennir mewn modd cytbwys.”  

Mae’r Athro Tony Jones hefyd wedi gofyn am gymorth yr Athro Frank Winde o Dde Affrica. Maent yn aelodau o Bwyllgor Llywio Daearyddol Comisiwn Undeb Rhyngwladol dros Gynaliadwyedd Dŵr, a oedd o dan gadeiryddiaeth yr Athro Jones rhwng 2002-2012. Mae gan Dr Winde brofiad helaeth yn Affrica, sy'n un o'r rhanbarthau allweddol sydd wir angen gwell trefn lywodraethol dŵr. 

Wedi cynnal ymchwil i adnoddau dŵr a newid yn yr hinsawdd ers 1990, fe wnaeth yr Athro Tony Jones gychwyn rhywfaint o'r ymchwil cyntaf i effeithiau cynhesu byd-eang ar lifafonydd ac adnoddau dŵr yng Nghymru ac yn y DG. 

Ef yw awdur Water Sustainability: a global perspective (Hodder/Routledge, 2010) ac fe olygodd Sustaining Groundwater Resources: a critical element in the global water crisis (Springer, 2011) ar gyfer UN International Year of Planet Earth

Dechreuodd gwaith UNESCO yn y maes adnoddau dŵr yn 1965, pan lansiodd y Degawd Hydrolegol Rhyngwladol, y rhaglen fyd-eang gyntaf a ganolbwyntiodd ar astudiaethau hydrolegol. Yn 1975, fe wnaeth y fenter arloesol hon esblygu i mewn i'r IHP presennol, rhaglen gydweithredol wyddonol rhynglywodraethol UNESCO yn y maes hydroleg a rheoli adnoddau dŵr.