Gweddnewid Gwyddor Gymdeithasol

Yr Athro Michael Woods

Yr Athro Michael Woods

26 Mawrth 2014

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi creu swydd newydd uwch yn ddiweddar sy’n dangos ei hymrwymiad i Ddyfarniad gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol i feithrin ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol sy’n gallu bod yn wir ‘weddnewidiol’.

Penodwyd Yr Athro Michael Woods o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn Athro Gwyddor Gymdeithasol Weddnewidiol.

Bydd y swydd arloesol hon yn arwain rhaglen ddwy flynedd fydd yn canolbwyntio ar dri faes blaenoriaeth strategol y Cyngor Ymchwil gyda’r nod o feithrin gweddnewid ym meysydd damcaniaethau, dulliau a chyfnewid gwybodaeth.

Meddai’r Athro Woods am ei benodiad: “Dyma gyfle cyffrous i ddatblygu ymchwil sy’n gweddnewid gwybodaeth a dulliau gwyddorau cymdeithasol, yn ogystal â sicrhau bod ein gwaith ymchwil yn cael gwir effaith ar weddnewid cymdeithas er gwell.”

Trwy hyrwyddo ymchwil newydd a rhyngddisgyblaethol, bydd yr Athro Gwyddor Gymdeithasol Weddnewidiol yn arwain rhaglen o weithgareddau fydd yn ennyn diddordeb ei gyd-ysgolheigion, aelodau o’r gymuned leol ynghyd â llunwyr polisi ac ymarferwyr yn y maes.

Gan ddefnyddio dulliau arloesol, bydd y gweithgareddau arfaethedig yn cynnwys cyfres o weithdai gyda llunwyr polisi ac ymarferwyr i gynhyrchu gwybodaeth ar y cyd ac archwilio tair prif flaenoriaeth y Cyngor Ymchwil.

At hyn, trwy gydweithio ag unigolion o’r disgyblaethau creadigol, y nod fydd datblygu a phrofi effeithiolrwydd ffurfiau newydd o gyfnewid gwybodaeth gyda chymunedau lleol – er enghraifft, trwy ddefnyddio ffilm, barddoniaeth, celf a pherfformiad i gyfleu syniadau am degwch, cynaliadwyedd ac ymddygiad sy’n newid.

Fel rhan o’i waith, bydd Yr Athro Woods yn archwilio’r posibiliadau o gyhoeddi ar wahanol agweddau o’r gweithgareddau, yn ogystal â sicrhau gwaddol hir dymor i’r rhaglen; yn bennaf mewn perthynas â hybu ceisiadau ymchwil dilynol gweddnewidiol yn y gwyddorau cymdeithasol, wedi’u hanelu’n bennaf at y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Ymunodd Yr Athro Woods â Phrifysgol Aberystwyth yn 1996 a bu’n Gyfarwyddwr y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear am 6 blynedd. Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar newidiadau a datblygiad gwledig a daearyddiaeth wleidyddol.

Bu’r Athro Woods yn arwain prosiectau ymchwil ar gyfer y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Rhaglen 7 y Fframwaith Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.

Ef yw’r prif ymchwilydd ar hyn o bryd ar gyfer Grant Uwch y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, GLOBAL-RURAL, gan archwilio globaleiddio mewn cyd-destun gwledig, ac ef hefyd yw Cyd-Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), sy’n anelu tuag at ddatblygu’r gallu ar gyfer ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol mewn prifysgolion yng Nghymru.

Meddai’r Dirprwy Is-Ganghellor, Yr Athro Chris Thomas, am y penodiad: “Daw’r Athro Woods â phrofiad helaeth i’r swydd hon ac y mae ef felly yn ddewis ardderchog ar gyfer hyrwyddo ac annog ymchwil weddnewidiol ar draws y Gwyddorau Cymdeithasol yn Aberystwyth.

“Mae creu’r swydd newydd hon yn cadarnhau ymrwymiad Prifysgol Aberystwyth i gyflawni gwaith ymchwil ag effaith trwy ddatblygu’r llwyddiannau sy’n bod eisoes yn y maes”. 

Bydd yr Athro Gwyddor Gymdeithasol Weddnewidiol yn hybu ac yn annog mwy o waith ymchwil gweddnewidiol yn y gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd y swydd hon yn cynnig arweiniad academaidd ar gyfer rhaglen o weithgareddau fel rhan o Ddyfarniad o £50k i’r Sefydliad gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol i feithrin gwyddor gymdeithasol weddnewidiol.

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth strategol y Cyngor Ymchwil: Perfformiad Economaidd a Thwf Cynaliadwy; Dylanwadu ar Ymddygiad a Hysbysu Ymyriadau; a Chymdeithas Fywiog a Theg.

Mae’r Cyngor Ymchwil yn cynnig diffiniad eang i ymchwil weddnewidiol gan ddweud bod yr ymchwil yn “cynnwys arloesi damcaniaethol a methodolegol blaengar, defnydd unigryw o ddamcaniaethau a dulliau mewn cyd-destun newydd, a/neu ymchwil sy’n seiliedig ar ymgysylltu safbwyntiau disgyblaethol a rhyngddisgyblaethol anghyffredin”.

AU11814